Mae Cymro wedi cael ei benodi’n rheolwr parhaol ar dîm pêl-droed Abertawe am y tro cyntaf ers i Brian Flynn fod wrth y llyw rhwng 2002 a 2004.
Daeth cadarnhad heno (nos Iau, Mehefin 13) mai Steve Cooper o Bontypridd yw’r rheolwr newydd, ar ôl i Graham Potter adael am Brighton fis diwethaf.
Yn fwyaf diweddar, roedd e’n rheolwr ar dîm dan 17 Lloegr a enillodd Gwpan y Byd yn 2017.
Mae’n fab i’r cyn-ddyfarnwr, Keith Cooper, ac yn byw yn Wrecsam.
Gyrfa
Dechreuodd ei yrfa’n chwarae fel amddiffynnwr i glybiau Wrecsam, Y Seintiau Newydd, Y Rhyl, Bangor a Phorthmadog.
Ar ôl mentro i’r byd hyfforddi, fe dorrodd ei gwys gydag Academi Wrecsam, cyn mynd yn ei flaen i hyfforddi gydag Academi a thîm dan 21 Lerpwl gyda Brendan Rodgers, ac yna dimau dan 16 a dan 17 Lloegr.
Dyma’i swydd gyntaf yn rheoli un o glybiau Cynghrair Bêl-droed Lloegr.
Mae wedi’i ddylanwadu gan Jose Seguera, cyn-hyfforddwr tîm ‘B’ Barcelona – ffaith sy’n sicr o fod wedi cyffroi perchnogion Abertawe wrth iddyn nhw geisio dychwelyd at eu dull traddodiadol o chwarae pêl-droed deniadol.