Mae prif hyfforddwr Cymru, Ryan Giggs, wedi amddiffyn perfformiad siomedig Cymru yn un o gemau rhagbrofol Euro 2020 neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 11).
Fe gollodd Cymru o un gôl i ddim yn erbyn Hwngari, ac mae nifer wedi mynegi siom ynghylch methiant yr ymosodwr Gareth Bale gyfle euraidd i roi Cymru ar y blaen, pan fethodd â sgorio gôl hawdd, ac yntau ond yn wynebu’r golwr.
Fe lwyddodd Hwngari i sgorio gôl o fewn y 10 munud olaf, gan adael i’r crysau cochion lithro i’r pedwerydd safle yng Ngrŵp E.
Colli cyfle
Yn dilyn y gêm, mae Ryan Giggs wedi amddiffyn perfformiad ei dîm, gan roi’r bai ar ddiffyg parodrwydd corfforol y chwaraewyr wedi dwy gêm gefn wrth gefn – yn erbyn Croatia a Hwngari.
“Rydych chi wedi ei weld yn y ddwy gêm – mae lot o’r chwaraewyr ddim yn barod yn gorfforol,” meddai.
“Mae gofyn i Gareth chwarae dwy gêm ar ôl ei gilydd, ac ar ôl iddo beidio â chwarae am chwe mis, rydyn ni’n gofyn i chwaraewyr wneud gwyrthiau.
“Dyw Ethan [Ampadu] ddim wedi cael cyfle go iawn i chwarae. Fe wnes i’n dda i gael 50 munud allan ohono. Ac roedd Brooksy [David Brooks] yr un fath…”
Ennill tir
Y gêm nesaf i Gymru fydd yn erbyn Azerbaijan ym mis Medi, ac mae angen iddyn nhw ennill tipyn o dir er mwyn cyrraedd brig Grŵp E. Ar hyn o bryd, mae Hwngari ar y blaen o chwe phwynt.
“Bydd rhaid inni ennill pob gêm o nawr ymlaen,” meddai Ryan Giggs.
“Dw i’n gwybod ei bod hi’n ddyddiau cynnar ac mae yna dipyn o bwyntiau, ond rydyn ni wedi ei gwneud hi’n anodd i’n hunain.
“Rydyn ni fwy na thebyg yn dibynnu ar dimoedd eraill i golli pwyntiau, a dw i’n gobeithio y byddan nhw oherwydd mae’n faes cystadleuol.
“Yn amlwg, mae’n rhaid inni ddechrau ennill gemau ac os nad ennill pob un gêm, mae angen inni ennill y rhan fwyaf ohonyn nhw.”