Mansfield (1)0–0(1) Casnewydd (Casnewydd yn ennill ar giciau o’r smotyn)  

Mae Casnewydd un gêm i ffwrdd o’r Adran Gyntaf ar ôl cyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle’r Ail Adran ar ôl trechu Mansfield yn y rownd gynderfynol nos Sul.

Wedi gêm gyfartal gôl yr un yn y cymal cyntaf ar Rodney Parade nos Iau, cafwyd naw deg munud di sgôr yn Field Mill yn yr ail gymal. Yna, wedi dim goliau yn yr amser ychwanegol ’chwaith fe wnaeth Joe Day yr arbediad holl bwysig i’w hennill hii’r Cymry ar giciau o’r smotyn.

Hanner Cyntaf

Casnewydd heb os a oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf gyda chroesiadau peryglus Dan Butler yn creu trafferthion i amddiffyn Mansfield ond roedd yr Alltudion yn hynod wastraffus o flaen gôl.

Rhoddodd Josh Sheehan foli heibio’r postyn hanner ffordd trwy’r hanner cyn i Padraig Amond anelu ergyd wan i’r rhwyd ochr yn dilyn gwaith creu da Jamille Matt funud yn ddiweddarach.

At ddiwedd yr hanner, peniodd Josh Labadie yn erbyn y trawst cyn i Amond, sydd fel arfer yn gryf iawn yn yr awyr, benio dros y trawst o chwe llath yn dilyn croesiad dieflig arall gan Butler.

Ail Hanner

Roedd hi’n gêm agosach wedi’r egwyl ond aros yn ddi sgôr a wnaeth hi er i’r ddau dîm ddod yn agos.

Tarodd Scot Bennett y trawst i Gasnewydd gyda tharan o ergyd o 35 llath cyn i’r gôl-geidwad cartref, Conrad Logan, wneud arbediad da i atal hanner foli Sheehan.

Daeth cyfleoedd gorau Mansfield ym mhum munud olaf y naw deg, Tyler Walker yn llusgo ergyd heibio’r postyn cyn i Danny Rose benio cyfle da oddi ar y targed hefyd.

Amser Ychwanegol

Amser ychwanegol amdani felly a phatrwm tebyg a oedd i hwnnw wrth i’r gêm lifo o un pen i’r llall gyda chyfleoedd da i’r ddau dîm.

Mansfield a gafodd o gorau ohonynt ond anelodd CJ Hamilton gyfle da filltiroedd dros y trawst. Gwnaeth Joe Day a Regan Poole yn wych i atal cyfle dwbl i Walker a Rose hefyd, y gôl-geidwad yn arbed cyn i’r amddiffynnwr canol groesi oddi ar y llinell.

Ciciau o’r smotyn

Er gwaethaf anallu’r ddau dîm i sgorio dros ddwy awr o chwarae arferol, roedd y ciciau o’r smotyn yn hynod o dda.

Sgoriodd Casnewydd eu pump hwy; Butler, Amond, Mickey Demetriou, Poole a Matt Dolan i gyd yn rhwydo’n gelfydd.

Gwnaeth Mansfield yn dda i ddechrau hefyd cyn i Day wneud yr arbediad holl bwysig o drydedd cic y tîm cartref, Roberts y gŵr anffodus yn methu.

Mae tîm Mike Flynn ar y ffordd i Wembley felly i herio unai Tranmere neu Forest Green yn y rownd derfynol ymhen pythefnos.

.

Mansfield

Tîm: Logan, Pearce, Turner, Sweeney, Jones (Gtant 120’), Tomlinson (Benning 45’), MacDonald, Mellis (Atkinson 90’), Hamilton, Walker, Rose (Ajose 105’)

Cerdyn Melyn: Jones 90+1’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Poole, O’Brien, Demetriou, Butler, Bennett, Sheehan (Dolan 110’), Labadie (Azeez 76’ (McKirdy 111’)), Amond, Matt, Willmott

Cardiau Melyn: Labadie 8’, O’Brien 19’, Butler 42’, Sheehan 65’, Matt 83’, Poole 89’

.

Torf: 7,361