Dioddefodd chwaraewyr pêl-droed – a gymerodd ran yn yr ymgyrch #Digon #Enough am foicot cyfryngau cymdeithasol 24-awr mewn protest at gam-drin hiliol – ragor o ymosodiadau i’w sylwadau.
Fe ddywedodd y Gymdeithas Pêl-droedwyr Proffesiynol eu bod nhw wedi bwriadu arddangos undod gyda’r aelodau oedd wedi’u targedu yn ogystal â dangos i fudiadau cyfryngol ac awdurdodau chwaraeon fod angen gwneud mwy.
Yn dilyn y boicot, a ddechreuodd am 9yb fore Gwener ac a gefnogwyd gan chwaraewyr proffesiynol ledled Ynysoedd Prydain, fe gyhoeddodd cwmniau cyfryngau cymdeithasol eu hymatebion i danlinellu eu hymdrechion i daclo’r broblem.
Er hynny, dywedodd y PFA heddiw fod rhagor o ymosodiadau wedi digwydd a’u hanfon at rai oedd yn cefnogi’r ymgyrch.
Mae’r undeb nawr wedi galw am gynnal cyfarfodydd gyda’r gwahanol gwmniau cyfryngau cymdeithasol ynghyd â’r Gymdeithas Bêl-Droed a’r Llywodraeth yn San Steffan.
Mae nifer o chwaraewyr yn cynnwys Mohamed Salah, Danny Welbeck, Raheem Sterling, Michy Batshuayi, Pierre-Emerick Aubameyang a Moussa Sissoko – wedi dioddef sylwadau hiliol.
Yn ystod gêm Lloegr yn erbyn Montenegro fis diwethaf, dioddefodd chwaraewyr du Lloegr siantiau hiliol, tra datgelodd amddiffynwr Tottenham Danny Rose yn ddiweddar ei fod wedi “cael digon” ac “yn methu aros” i roi’r gorau i’r gêm.