Mae Morgannwg wedi cael crasfa arall yn eu hail gêm 50 pelawd yng Nghwpan Royal London yn erbyn Hampshire yn Southampton.
Tarodd Tom Alsop 130 heb fod allan wrth i’r Saeson gwrso 293, a chyrraedd y nod gydag 8.1 o belawdau’n weddill.
Yn gynharach yn y batiad, tarodd y capten James Vince 95.
Perfformiad siomedig gafwyd unwaith eto gan fatwyr Morgannwg, ac eithrio David Lloyd a Graham Wagg a darodd 68 yr un.
Manylion y gêm
Sgoriodd y Cymry 292 am naw ar ôl galw’n gywir a batio’n gyntaf, ond roedden nhw mewn dyfroedd dyfnion yn gynnar yn y batiad ar 28 am dair.
Bryd hynny, daeth David Lloyd a Billy Root ynghyd ac adeiladu partneriaeth o 100 am y bedwaredd wiced i achub rywfaint ar eu hembaras.
Ychwanegodd y capten Chris Cooke a Graham Wagg 95 am y seithfed wiced, ac fe lwyddon nhw i sicrhau bod Morgannwg yn gosod nod gystadleuol i’r Saeson yn y pen draw.
Fe allai Chris Cooke fod wedi bod allan am chwech, ond fe gafodd ei ollwng gan Aneurin Donald, cyn-chwaraewr Morgannwg, oedd wrth y llain pan gipiodd Hampshire y fuddugoliaeth yn y pen draw.
Seren y bowlwyr i’r tîm cartref oedd Kyle Abbott, a gipiodd dair wiced am 47. Roedd dwy wiced i’r troellwr Liam Dawson.
Ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf, fe fydd Morgannwg yn gobeithio taro’n ôl wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Haf i Gaerdydd ddydd Sul.