Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn dweud ei fod yn gandryll ond am gadw’n dawel ar ôl i’r dyfarnwr Mike Dean wyrdroi penderfyniad i roi cic o’r smotyn i’r Adar Gleision yn erbyn Burnley ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 14).
Collodd y Cymry o 2-0 yn y pen draw.
Aeth y Saeson ar y blaen drwy Chris Wood yn yr hanner cyntaf, cyn i’r dyfarnwr roi cic o’r smotyn ar ôl i’w gynorthwy-ydd ddweud bod Ben Mee wedi llawio’r bêl.
Ond ar ôl trafodaeth rhwng y swyddogion, cafodd y penderfyniad ei wyrdroi a chafodd sawl galwad arall am gic o’r smotyn eu gwrthod, cyn i Chris Wood rwydo am yr ail waith yn ystod yr amser a ganiateir am anafiadau.
Ymateb
Roedd Neil Warnock i’w weld yn grac yn ystod y gêm, ond fe lwyddodd i reoli ei dymer ar ôl y chwiban olaf.
Cafwyd e’n euog ddydd Gwener o dorri’r rheolau drwy leisio barn am berfformiad y dyfarnwr yn y gêm yn erbyn Chelsea bythefnos yn ôl, pan sgoriodd y Saeson er eu bod nhw’n camsefyll.
“Dw i jyst yn trio peidio cael dirwy,” meddai Neil Warnock wedi’r helynt ddoe.
“Dw i wedi cael cyngor.
“Dw i’n gandryll dan y wyneb.”
“Roedd y llumanwr yn benderfynol, a dywedodd y pedwerydd swyddog wrtha i nad oedd e wedi’i weld e, a llumanwr arall o 75 llath i ffwrdd wedi gweld ei bod hi wedi taro’i ben e’n gyntaf ac os yw e wedi taro’i ben gyntaf, yna mae’n debyg nad yw’n gic o’r smotyn.
“Dw i’n ei chael yn anhygoel fod y llumanwr arall yn allweddol wrth ei wyrdroi e…”
Ond mae’n dweud bod Mike Dean “yn un o’r goreuon a rhaid derbyn yr hyn mae’n ei ddweud”.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Caerdydd bum pwynt islaw Brighton ar drothwy eu gêm nos Fawrth (Ebrill 16).