Barnet 1–2 Wrecsam                                                                        

Sicrhaodd Wrecsam eu lle yn gemau ail gyfle Cynghrair Genedlaethol Lloegr gyda buddugolieth yn erbyn Barnet yn yr Hive brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr eilydd, Jermaine McGlashan, gôl hwyr i’w hennill hi i’r ymwelwyr o ogledd Cymru.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe roddodd Akil Wright Wrecsam ar y blaen gyda pheniad taclus ddau funud wedi’r egwyl.

Peniad a unionodd bethau i Barnet ugain munud o’r diwedd hefyd, Shaquile Coulthirst yn plymio i roi ei dîm yn ôl ynddi.

Ond Wrecsam a aeth â hi diolch i’r eilydd, McGlashan, bedwar munud o ddiwedd y naw deg.

Enillodd y pedwar uchaf ddydd Sadwrn felly mae Wrecsam yn aros yn bedwerydd. Maent chwe phwynt o Leyton Orient ar y brig gyda thair gêm yn weddill, felly’n anhebygol iawn o ennill y gynghrair bellach. Maent dri phwynt y tu ôl i Solihull sydd yn y trydydd safle, safle arwyddocaol gan ei fod yn golygu un gêm yn llai ar lwybr y gemau ail gyfle.

.

Barnet

Tîm: Cousins, Johnson, Reynolds, Taylor, Robson, Almeida Santos, Coulthirst, Boucaud, Elito (Tarpey 64’), Sweeney (Taylor 56’), Mason-Clark (Fonguck 82’)

Gôl: Coulthirst 70’

Cerdyn Melyn: Almeida Santos 58’

.

Wrecsam

Tîm: Lainton, Roberts, Pearson, Carrington, Young, Kennedy, Holroyd, Rutherford (Summerfield 83’), Wright, Beavon (Oswell 76’), Grant (McGlashan 83’)

Goliau: Wright 47’, McGlashan 86’

Cerdyn Melyn: Grant 75’

.

Torf: 1,594