Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud mai perfformiad Daniel James yn erbyn Stoke neithiwr (nos Fawrth, Ebrill 10) yw’r gorau a welodd erioed.

Sgoriodd y Cymro ifanc chwip o gôl wrth i’r Elyrch ennill o 3-1 yn erbyn naw dyn yr ymwelwyr yn Stadiwm Liberty.

Ac roedd e’n allweddol yn y ddau ddigwyddiad a arweiniodd at gerdyn coch i Bruno Martins Indi a Tom Edwards.

Roedd Ryan Giggs, rheolwr Cymru, yn y stadiwm i weld y perfformiad.

Sgoriodd y capten Mike van der Hoorn ac Oli McBurnie y ddwy gôl arall, wrth i James McClean rwydo am gôl gysur i Stoke ar drothwy’r egwyl.

‘Lwcus o gael bod yn dystion’

“Dw i wedi rhedeg allan o ffyrdd o ganmol Dan,” meddai Graham Potter. “Roedden ni jyst yn lwcus o gael bod yn dystion iddo fe.

“Roedd yn gystal berfformiad unigol ag ydw i wedi bod yn dyst iddo fe. Roedd e mor, mor dda.

“Os ydych chi’n onest, roedd lefel y perfformiad uwchlaw’r Bencampwriaeth. Mae e’n gweithio’n galed ar ran y tîm.

“Dan fyddai’r cyntaf i ddweud bod angen i’r tîm ei helpu fe i ennill y bêl a’r strwythur i’w fynegi ei hun, ond mae ganddo fe’r safon i goroni’r cyfan.

“Mae Ryan [Giggs] yn gwybod sut brofiad yw chwarae’n llydan, ac mae’n siŵr y bydd e wrth ei fodd.”