Caerdydd 1–2 Chelsea                                                                      

Rhoddwyd cnoc i obeithion Caerdydd o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddynt golli gartref yn erbyn Chelsea brynhawn Sul, a hynny o dan amgylchiadau dadleuol.

Roedd y tîm cartref ar y blaen gyda saith munud o’r naw deg yn weddill yn Stadiwm y Ddinas ond colli a fu eu hanes yn y diwedd wedi goliau hwyr Azpilicueta a Loftus-Cheek.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, fe aeth Caerdydd ar y blaen wedi munud o’r ail hanner, Victor Camarasa’n gorffen yn gelfydd o un llath ar bymtheg yn dilyn gwaith adeiladu braidd yn ffodus Aron Gunnarsson a Harry Arter.

Nid oedd Chelsea wedi cynnig fawr ddim i’r gêm am wyth deg munud a mwy, ond gyda’u cefnogwyr yn galw am ddiswyddiad eu rheolwr, Maurizio Sarri, roeddynt yn gyfartal allan o unman chew munud o’r diwedd.

Cezar Azpilicueta a beniodd yr ymwelwyr yn gyfartal yn y cwrt chwech ond roedd y Sbaenwr yn amlwg yn camsefyll pan beniodd ei gydwladwr, Marcos Alonso, y bêl i’w lwybr.

Gôl hynod ffodus i Sarri a’i dîm felly ac roeddynt mewn lwc unwaith eto ychydig funudau’n ddiweddarach pan y dihangodd Antonio Rudiger gyda cherdyn melyn yn unig am drosedd ar Kenneth Zohore ag yntau’n glir ar y gôl.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gaerdydd ar ddechrau’r amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i beniad pwerus Ruben Loftus-Cheek o groesiad Willian ennill y gêm i’r ymwelwyr.

Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn y deunawfed safle, bum pwynt y tu ôl i Brighton, Southampton a Burnley gyda saith gêm yn weddill.

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Bennett, Gunnarsson, Arter (Ralls 80’), Murphy (Mendez-Laing 90’), Camarasa, Hoilett, Niasse (Zohore 85’)

Gôl: Camarasa 46’

Cardiau Melyn: Arter 54’, Gunnarsson 86’

 

.

Chelsea

Tîm: Arrizabalaga, Azpilicueta, Rudiger, David Luiz, Alonso, Kovacic, Jorginho (Loftus-Cheek 64’), Barkley, Pedro (Hazard 53’), Higuain (Giroud 77’), Willian

Goliau: Azpilicueta 84’, Loftus-Cheek 90+1’

Cardiau Melyn: Jorginho 26’, Azpilicueta 61’, Rudiger 87’

.

Torf: 32,657