Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn mynnu bod cymaint o bwysau ar Chelsea ag sydd ar ei dîm ei hun wrth iddyn nhw herio’i gilydd yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn Uwch Gynghrair Lloegr heddiw (dydd Sul, Mawrth 31, 2.05yp).
Mae’r Adar Gleision yn safleoedd y gwymp gydag wyth gêm yn weddill, heb eu bod wedi ennill yr un pwynt yn erbyn un o’r chwe thîm uchaf yn y tabl y tymor hwn.
Mae Chelsea, yn y cyfamser, yn y chweched safle ac yn mynd am le yn y pedwar safle uchaf er mwyn cyrraedd Cynghrair y Pencampwyr.
Cyn diwedd y tymor, bydd rhaid i Gaerdydd herio Lerpwl gartref, a Manchester City a Manchester United oddi cartref.
“Maen nhw o dan bwysau aruthrol hefyd,” meddai Neil Warnock am ei wrthwynebwyr.
“Ar ôl y gêm yn erbyn Everton, lle gallen nhw fod wedi bod ar y blaen o 4-0 ond wedi colli o 2-0, byddwn i’n dychmygu y byddan nhw’n edrych ar y gêm hon ac yn meddwl y gallan nhw ail-afael ynddi.
“Mae hynny’n ddealladwy wrth iddyn nhw edrych ar ein canlyniadau ni yn erbyn y timau mawr eraill ac os bydd popeth yn mynd yn iawn ar ddiwrnod da iddyn nhw, fe fyddan nhw’n ein curo ni.
“Ond os ydyn ni’n barod amdani, fe allwn ni roi gêm dda i’r timau hyn – yn enwedig gartref.”
‘Does neb yn ddiogel’
Yn ôl Neil Warnock, mae nifer o’r timau tua’r gwaelod mewn perygl o gwympo i’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.
“Nid Burnley a Southampton yn unig sy’n gallu cael eu dal,” meddai.
“Mae yna dimau eraill uwch ein pennau a allai fod yn teimlo’n nerfus.
“Gallai unrhyw un gael trychineb, colli pedair neu bump o gemau a chanfod eu hunain mewn trafferthion.”
Y timau
Mae Callum Paterson allan am weddill y tymor ar ôl cael ei anafu wrth gynrychioli’r Alban, tra bod Sol Bamba a Jazz Richards ill dau hefyd wedi’u hanafu.
Bydd Ruben Loftus-Cheek a’r Cymro Ethan Ampadu yn cael eu monitro yn dilyn anafiadau i’w cefn, tra bod amheuon hefyd am ffêr Davide Zappacosta.
Gallai Callum Hudson-Odoi ddechrau am y tro cyntaf ar ôl creu argraff wrth gynrychioli Lloegr yn erbyn Montenegro.