Nottingham Forest 2–1 Abertawe                                               

Ildiodd Abertawe ddwy gôl hwyr wrth golli oddi cartref yn erbyn Nottingham Forest yn y City Ground yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Connor Roberts yr ymwelwyr o Gymru ar y blaen chwarter awr o’r diwedd cyn i’r tîm cartref daro nôl gyda dwy yn y deg munud olaf.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, bu rhaid aros tan chwarter awr o’r diwedd am gôl agoriadol y gêm, Roberts yn gwyro’r bêl i gefn y rhwyd yn dilyn cyd-chwarae taclus rhwng Bersant Celina a George Byers.

Ond ar ôl aros am dros dri chwarter y gêm am y gôl gyntaf, dilynodd dwy arall yn fuan wedi hynny.

Unionodd yr eilydd, Daryl Murphy, y sgôr ddeg munud o’r diwedd gyda pheniad postyn agosaf o gic gornel Joe Lolley.

A chic gornel dda arall gan Lolley a arweiniodd at gôl fuddugol Forest saith munud yn ddiweddarach, Mola Wague a’r peniad y tro hwn a’r tri phwynt yn mynd i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn gadael yr Elyrch yn bymthegfed yn y tabl gyda naw gêm yn weddill.

.

Nottingham Forest

Tîm: Pantilimon, Darikwa, Wague, Benalouane, Osborn, Yates (Tuncara Gomes 57’), Watson (Antunes Carvalho 66’), Colback, Cash, Grabban (Murphy 67’), Lolley

Goliau: Murphy 80’, Wague 87’

Cardiau Melyn: Lolley 24’, Colback 59’, Darikwa 69’

.

Abertawe

Tîm: Nordfeldt, Roberts, van der Hoorn, Carter-Vickers, Naughton, Byers (Baker-Richardson 84’), Grimes, Dyer (McKay 70’), Celina, James, McBurnie

Gôl: Roberts 76’

Cerdyn Melyn: McBurnie 40’

.

Torf: 28,469