Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn gobeithio y bydd eu perfformiad yn erbyn Manchester City yng Nghwpan FA Lloegr bythefnos yn ôl yn eu sbarduno am weddill y tymor.
Roedden nhw ar y blaen o 2-0 yn Stadiwm Liberty cyn i’r tîm sy’n ail yn Uwch Gynghrair Lloegr daro’n ôl ac ennill o 3-2 gyda dwy gôl ddadleuol – y naill yn camsefyll a’r llall yn gic o’r smotyn amheus.
Mae’r canlyniad yn golygu nad ydyn nhw wedi ennill eu tair gêm diwethaf, a’u bod yn bedwerydd ar ddeg yn y Bencampwriaeth gyda deg gêm yn weddill.
Ond bydd rhaid iddyn nhw chwarae’r gemau hynny i gyd o fewn 36 diwrnod.
“Fe wnawn ni ganolbwyntio ar y gêm nesaf a cheisio ennill honno a gweld os gallwn ni gael rhywfaint o fomentwm oherwydd, yn sydyn iawn, y peth positif o gael ychydig o fomentwm yw eich bod yn ennill pwyntiau’n gyflym ac mae eich safle’n newid yn gyflym,” meddai Graham Potter.
“Rhaid i ni fod yn optimistaidd ond ar yr un pryd, mae gyda ni ddeg gêm i barhau i ddysgu a datblygu.
“Mae pob munud o bêl-droed yn hanfodol i ni oherwydd mae’r bois mewn cyfnod yn eu gyrfaoedd lle maen nhw eisiau gwella.
“I ni, rhaid i ni fod yn ymwybodol o hynny a chanolbwyntio ar y gêm nesaf hefyd.”
‘Bod yn ni ein hunain’
Ar ôl tymor cythryblus oddi ar y cae, sydd wedi gweld ymadawiad y cadeirydd Huw Jenkins a rhagor o brotestiadau yn erbyn y perchnogion, byddai llwyddiant ar y cae yng ngweddill y tymor yn lleddfu rywfaint ar y problemau i Graham Potter, wrth i’w staff wynebu’r posibilrwydd hefyd o golli eu swyddi yn sgil diswyddiadau gwirfoddol.
Mae’r perfformiad yn erbyn Manchester City yn un o’r ychydig uchafbwyntiau y tymor hwn wrth i’r Elyrch geisio addasu i fywyd yn y Bencampwriaeth ar ôl cynifer o flynyddoedd yn Uwch Gynghrair Lloegr.
“Mae’n anodd ei fesur, ond dw i’n cael y teimlad [fod y perfformiad yn erbyn Manchester City wedi sbarduno’r chwaraewyr].
“Byddech chi’n ffôl o fethu [â manteisio ar y perfformiad] oherwydd rydych chi’n chwarae yn erbyn y goreuon.
“Roedd yna ymdeimlad am nifer o flynyddoedd nad ydych chi’n gallu ennill y math yna o gemau neu fod rhaid i chi geisio osgoi crasfa.
“Roedden ni am fynd allan a cheisio bod yn ni ein hunain a cheisio ennill.
“Dw i’n credu eich bod chi’n gallu gweld, o ran y perfformiad, ein bod ni wedi ceisio ennill a bod yn bositif a chredu yn yr hyn roedden ni’n ei wneud.
“Yr her i ni yw cyrraedd y lefel y gwnaethon ni yn erbyn Manchester City a hefyd yn erbyn Norwich yn yr hanner cyntaf, ac am gyfnodau helaeth yn erbyn West Brom.
“Rhaid eich bod chi’n gallu gwneud hynny a chael y canlyniad. Dyna’r peth nesaf i ni.”
Nottingham Forest v Abertawe
Mae Oli McBurnie, ymosodwr Abertawe, wedi gwella o salwch ac mae disgwyl iddo ddechrau’r gêm ar ôl chwarae dros yr Alban yn ystod y ffenest ryngwladol.
Ac mae posibilrwydd y gallai Joe Rodon, yr amddiffynnwr lleol, ddychwelyd i’r garfan am y tro cyntaf ers iddo dorri ei droed ym mis Ionawr.
Ond mae’r capten Leroy Fer ar y cyrion o hyd.
Gallai Lewis Grabban ddychwelyd i arwain yr ymosod i Nottingham Forest ar ôl colli pum gêm oherwydd anaf i’w goes.
Mae Matty Cash ar gael, ond mae Sam Byram, Michael Dawson a Michael Hefele allan o hyd.
Nottingham Forest sydd wedi ennill y pum gêm ddiwethaf gartref yn erbyn Abertawe, ond dydyn nhw ddim wedi cyfarfod yn y gynghrair ers 2010.
Yn hanesyddol, dydy mis Mawrth ddim yn fis da i’r Elyrch oddi cartref, wrth iddyn nhw golli eu chwe gêm diwethaf allan o saith yn ystod y mis yma dros y blynyddoedd.
Mae Nottingham Forest yn ddi-guro yn eu pum gêm diwethaf ar eu tomen eu hunain.