Mae Ryan Giggs wedi amddiffyn ei benderfyniad i beidio â chynnwys Gareth Bale yn y tîm a sicrhaodd fuddugoliaeth dros Trinidad a Tobago yn Wrecsam neithiwr (dydd Mercher, Mawrth 20).
Doedd Cymru ddim wedi chwarae yn y Cae Ras ers 2008, a bu cryn gyffro wrth i’r tîm pêl-droed cenedlaethol ddychwelyd i ogledd Cymru wedi 11 mlynedd.
Daeth Cymru i’r brig dros y tîm o’r Caribî o 1-0 ar ôl i’r ymosodwr ifanc, Ben Woodburn, sgorio ei ail gôl dros ei wlad yn ystod amser ychwanegol.
Ond siom i gefnogwyr Cymru oedd y ffaith nad oedd Gareth Bale yn bresennol yn y gêm, ar ôl i Ryan Giggs osod tîm cysgodol ar y cae ychydig ddiwrnodau cyn y gêm fawr yn erbyn Slofacia yng Nghaerdydd ddydd Sul (Mawrth 24).
Yn ôl y prif hyfforddwr, roedd wedi penderfynu peidio â defnyddio Gareth Bale oherwydd gêm y penwythnos, sy’n cychwyn ymgyrch Cymru ar gyfer pencampwriaeth yr Ewros.
“Wrth gwrs mae’n siom i gefnogwyr,” meddai Ryan Giggs. “Maen nhw eisiau gweld Gareth Bale a’i debyg, ond fy swydd i yw sicrhau eu bod nhw’n barod ar gyfer dydd Sul.”