Nat Knight-Percival
Mae Wrecsam yn herio’r tîm sy’n arwain Uwch Gynghrair Blue Square heno gan obeithio cipio’r tri phwynt fydd yn eu codi yn ôl i frig yr Uwch Gynghrair.
Bydd eu rheolwr dros dro, Andy Morrell yn ymwybodol iawn o gryfderau Gateshead gan ei fod wedi dechrau ei yrfa bêl-droed yn chwarae i dimau yn ardal Newcastle.
Mae hefyd yn ffrindiau ag is hyfforddwr y gwrthwynebwyr heno, Terry Mitchell, ers y dyddiau hynny pan oedd yn fyfyriwr yn Newcastle.
“Dwi’n edrych ymlaen at gael herio Terry,” meddai Morrell.
“Roedden ni’n chwarae gyda’n gilydd yn Gosforth ac ers hynny mae wedi mynd ymlaen i fod yn hyfforddwr ieuenctid gyda Newcastle United a Hartlepool United cyn symud i Gateshead llynedd.”
“Mae ‘na dipyn o amser wedi pasio ers i ni fod gyda’n gilydd yn Newcastle ond rydan ni wedi aros yn ffrindiau.”
Y garfan yn gwegian
Er i Wrecsam gipio buddugoliaeth yn erbyn Ebbsfleet gan godi i’r trydydd safle ddydd Sadwrn, mae gan Morrell ddigon o gur pen cyn y gêm fawr heno.
Mae Jake Speight a Jamie Tolley ill dau wedi eu gwahardd rhag chwarae heno, tra bod Chris Westwood wedi codi anaf yn y fuddugoliaeth ddydd Sadwrn sy’n debygol o’i gadw allan am rai wythnosau.
Ar nodyn cadarnhaol, mae Nat Knight-Percival yn dychwelyd o waharddiad, ond mae’n annhebygol y bydd Chris Maxwell na Lee Fowler yn gwella o anafiadau i fod yn y garfan heno.
“Roedd yn fuddugoliaeth dda dydd Sadwrn mewn gêm galed yn erbyn Ebbsfleet” meddai Morrell.
“Tydi’r gwaharddiadau ddim yn helpu, ac rydach chi wastad yn mynd i godi anafiadau pryd mae gymaint o gemau mewn cyfnod byr,” ychwanegodd y chwaraewr reolwr.
Mae dau chwaraewr o’r tîm ieuenctid wedi eu hychwanegu i’r garfan sy’n teithio heno, sef Steve Tomassen a Jay Colbeck.
Gan nad yw Feetwood, sy’n ail yn y gynghrair, yn chwarae tan ddydd Sadwrn, byddai buddugoliaeth yn codi Wrecsam i frig y gynghrair.