Mae Abertawe yn wynebu sêr Man City yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan FA Lloegr yfory.
Bydd y gic gyntaf am 5.20 y p’nawn ac os wnawn nhw ennill, bydd yr Elyrch yn cael trip i Wembley ar gyfer gêm gynderfynol.
Ond Man City yw’r ffefrynnau o bell ffordd ac nid yw Abertawe wedi curo’r clwb o Fanceinion ers 2012.
Bryd hynny fe beniodd Luke Moore unig gôl y gêm.
Dinas ar dân
Yr wythnos hon fe sgoriodd Man City saith gôl yn erbyn Schalke yng Nghynghrair y Pencampwyr, ac fe sgorion nhw naw gôl mewn gêm gwpan yn erbyn Burton.
Ac maen nhw wedi sgorio chwe gôl mewn gemau cynghrair yn erbyn Chelsea a Southampton.
“Mae Manchester City yn dîm gwych – edrychwch ar faint o gols maen nhw wedi sgorio’r tymor hwn,” meddai Jay Fulton, chwaraewr canol cae Abertawe wnaeth chwarae yn y gêm gwpan olaf i Man City golli.
Roedd Jay Fulton yn nhîm Wigan Athletic ar Chwefror 19, 2018 pan lwyddon nhw i drechu Man City 1-0.
Ac mae’r Albanwr 24 oed yn edrych ymlaen yn arw at y gêm.
“Mae yn gyfle da i ni chwarae yn erbyn y gorau a dangos beth allwn ni wneud,” meddai.
“Rydych chi eisiau chwarae yn y gemau mawr yma.”