Mi fydd clwb pêl-droed Bae Colwyn yn dychwelyd i chwarae eu pêl-droed yn system byramid Cymru’r tymor nesaf, wedi 35 mlynedd yn chwarae yng nghynghreiriau Lloegr.
Daw hyn yn dilyn pleidlais gan gyfranddalwyr y clwb neithiwr (Dydd Iau, Mawrth 8) wnaeth bleidleisio o blaid dod yn ôl.
Roedd gan bob un cyfranddaliwr un bleidlais am bob un o’r cyfrannau – shares – maen nhw yn berchen arnyn nhw.
Cafwyd 91,600 o bleidleisiau o blaid dychwelyd i system Cymru, a 55,624 i aros yn system Lloegr, sy’n golygu y bydd y clwb rŵan yn cyflwyno cais i Gymdeithas Bêl-Droed Cymru i gael dychwelyd.
Mae disgwyl i Fae Colwyn gael gwybod gan y Gymdeithas ar Fawrth 29 ym mha gynghrair fyddan nhw yn chwarae’r tymor nesaf.
Sefyllfa ariannol
Un o’r dadleuon yn y drafodaeth neithiwr oedd y ffaith nad oes gan y clwb ddigon o arian i aros yn system Lloegr.
Mae troi at system Cymru yn golygu derbyn arian gan UEFA i redeg academi a’r posibilrwydd o grantiau gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Cafodd y clwb gynnig i ymuno gydag Uwch Gynghrair Cymru pan gafodd hi ei chreu yn 1992, ond fe wrthododd Bae Colwyn cyn mynd ag achos i’r Uchel Lys yn Llundain er mwyn aros yn system Lloegr.
“Goroesi”
“Beth rwyf eisiau ei weld yw’r clwb pêl-droed hwn yn goroesi ac rwy’n falch fod penderfyniad wedi cael ei wneud sy’n rhoi’r cyfle gorau i ni wneud hynny,” meddai Cadeirydd Bae Colwyn, Bill Murray.
Eu tasg am weddill y tymor yw canolbwyntio ar orffen eu tymor yng nghynghrair Ecostik West yng ngogledd Lloegr.
Wedi hynny bydd y “gwaith o lunio cynllun i fynd a’r clwb yn ei flaen” yn dechrau meddai Bill Murray.