Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud fod Daniel James, y chwaraewr canol cae ifanc, “heb newid dim” yn sgil y digwyddiadau a arweiniodd ato’n aros yn Stadiwm Liberty ar ddiwrnod ola’r ffenest drosglwyddo.

Atal Leeds rhag ei arwyddo oedd un o weithredoedd ola’r cadeirydd Huw Jenkins cyn iddo adael ei rôl rai wythnosau’n ôl – er bod y chwaraewr wedi pasio prawf meddygol ac yn barod i lofnodi’r cytundeb yn Elland Road.

Mae’r helynt wedi rhoi Daniel James o dan y chwyddwydr ledled gwledydd Prydain, yn ogystal â’i berfformiad yn y gêm gwpan yn erbyn Brentford y penwythnos diwethaf, pan redodd hyd y cae cyn sgorio chwip o gôl.

“Mae’n anodd, am wn i, gan fod [yr holl sylw] yn rhywbeth nad yw e’n gyfarwydd â fe,” meddai Graham Potter wrth golwg360.

“Ond y cyngor ry’n ni wedi’i roi iddo fe, a’r realiti yw, fod pethau’n gallu newid mor gyflym.

“Weithiau rydych chi’n profi pa mor gyflym mae pethau’n newid o’r drwg i’r da, ac yna rydych chi’n dysgu fod pethau’n gallu mynd o fod yn dda i fod yn ddrwg hefyd.

“Mae’n rhaid iddo fe barhau i weithio, parhau i wneud y pethau sydd wedi ei gael e i’r pwynt yma.

“Ond dw i ddim wedi gweld unrhyw newid ynddo fe o gwbl. Os rhywbeth, mae e’n gweithio’n galetach ac yn well.

“Dyma’r byd rydyn ni’n byw ynddo. Pan fo rhywun yn gwneud yn dda, rydych chi am wneud môr a mynydd o’r peth. A phan bo nhw ddim yn gwneud yn dda, rydych chi am eu cicio nhw i’r llawr.

“Dyna’r byd modern, felly mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn ddigon galluog i ymdopi â hynny.”

‘Mae’r chwaraewyr eisiau gwella’

Nid dim ond Daniel James sydd â’i draed ar y ddaear, meddai Graham Potter, gyda’r gêm fawr yn erbyn Manchester City ar y gorwel yng Nghwpan FA Lloegr ar Fawrth 16.

Mae gan yr Elyrch bedair gêm cyn yr ornest honno, ac mae sylw’r chwaraewyr wedi’i hoelio’n gadarn ar y Bencampwriaeth meddai’r rheolwr, sy’n wfftio’r awgrym fod y gêm yn erbyn Manchester City yn un i gyffroi yn ei chylch.

“Dw i ddim yn meddwl fod fawr ddim iddyn nhw fod yn gyffrous amdano fe, a bod yn onest,” meddai.

“Ry’n ni yng nghanol y tabl yn y Bencampwriaeth. Pe bawn i’n nhw, byddwn i’n meddwl y gallwn ni wneud dipyn gwell ac mae tipyn y gallwn ni wella arno fe.

“Dydyn ni ddim fatha bo ni ar frig y Bencampwriaeth, gyda miliwn o bwyntiau o flaenoriaeth.

“Ry’n ni’n brwydro ym mhob cystadleuaeth. Lle’r ydyn ni arni, mae angen i ni wella. Ry’n ni’n gwybod hynny. Mae’r chwaraewyr yn gwybod hynny, maen nhw’n ddigon gonest.

“Dydyn nhw ddim yn eistedd ac yn meddwl fod popeth yn llwyddo a’u bod nhw’n ffantastig.

“Maen nhw’n gwybod fod angen iddyn nhw wella, ac mai dyna’r gwirionedd drwy gydol y tymor. Dyna’r peth da amdanyn nhw.

“Dydyn nhw ddim yn bodloni ar le maen nhw a thra bo hynny’n wir, mae gyda chi gyfle i wella.”

Y gwpan yn hwb i’r tymor

Mae Graham Potter o’r farn fod y rhediad yng Nghwpan FA Lloegr yn hwb i’r tîm ar ôl gorfod ail-adeiladu yn dilyn y gwymp o’r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf, a gorfod dechrau o’r dechrau gyda charfan newydd yn y Bencampwriaeth.

“Wnes i siarad â nifer o gefnogwyr ar ddechrau’r tymor, ac roedden nhw’n sôn am gael yr hunaniaeth yn ôl,” meddai.

“Wnaethon nhw sôn am gael chwaraewyr oedd yn angerddol ac yn gwneud eu gorau ar y cae. Am ba bynnag reswm, doedden nhw ddim yn credu bod hynny’n digwydd y tymor diwethaf.

“Felly pe baen ni’n cyrraedd y gemau ail gyfle neu’n cael rhediad yn y gwpan, byddai hynny’n beth da.

“Wrth gwrs, fe fu heriau ar hyd y ffordd oherwydd o safbwynt Brentford [buddugoliaeth o 4-1 yn y rownd flaenorol], byddwn i’n dweud bod y canlyniad yn dda a’r ail hanner yn dda, ond roedd nifer o heriau yn ystod y gêm.

“Roedd y stadiwm yn hanner gwag a hanner ffordd drwy’r hanner cyntaf, dw i’n meddwl, roedden ni’n cael ein bwio felly doedd hynny ddim yn brofiad gwych.

“Roedd rhaid i ni ddiodde’ ac mae’n wych i’r bois fynd drwy’r profiad hwnnw oherwydd mae’n gwneud i chi ddeall mwy am yr hyn sydd angen ei wneud.”

Haeddu herio Manchester City

Mae dyfalbarhad y chwaraewyr yn erbyn Brentford ar ôl mynd ar ei hôl hi cyn troi’r ornest ar ei phen yn golygu eu bod yn haeddu herio Manchester City, meddai Graham Potter.

“Ro’n i’n teimlo rywfaint drostyn nhw oherwydd nid diffyg ymdrech oedd ar fai,” meddai.

“Roedden nhw’n stryglo braidd yn yr hanner cyntaf. Ond rhaid i chi ganmol y gwrthwynebwyr weithiau hefyd. Dw i’n gwybod fod pobol ddim yn hoffi gwneud hynny.

“Ond mae un tîm weithiau’n chwarae’n well na’r llall, a dyna ddigwyddodd yn yr hanner cyntaf.

“Rhaid i chi ddyfalbarhau oherwydd yn hwyr neu’n hwyrach, mae’r gêm yn troi ar ei phen. Dim ond eich bod yn parhau i frwydro, mi all droi. Mae hynny’n rhywbeth ry’n ni wedi ceisio dysgu’r chwaraewyr yn ei gylch e ac mae’n braf ar ddiwedd y dydd fod ganddyn nhw’r profiad hwn i ddod.”