Mae Michael Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn dweud ei fod yn “falch iawn” o’i chwaraewyr, er iddyn nhw golli o 4-1 yn erbyn Manchester City yng Nghwpan FA Lloegr neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 16).
Rhwydodd y Sais ifanc Phil Foden ddwywaith yn yr hanner cyntaf, ac roedd gôl yr un i Leroy Sane a Riyad Mahrez yn yr ail.
Daeth gôl gysur i Gasnewydd drwy Padraig Amond cyn i’r ymwelwyr ychwanegu eu pedwaredd yn hwyr yn yr ornest.
“Dw i’n falch iawn o’r chwaraewyr,” meddai Michael Flynn. “Ro’n i’n meddwl eu bod nhw’n rhagorol.
“Dw i wedi siomi braidd gyda’r ddwy gôl ddiwethaf wnaethon ni eu hildio, oherwydd fe gawson ni’n hunain yn ôl ynddi ac roedd angen un cyfle arnon ni, ond wnaethon ni ddim ddal ati.”
Rhannu’r ystlys gyda Pep Guardiola
“Roedd cael rhannu’r ystlys gyda Pep Guardiola yn hudolus i fi,” meddai Michael Flynn.
“Fe ddywedodd, ‘Dylet ti fod yn falch, rwyt ti’n gwneud gwaith gwych, a phob lwc’.
Dywedodd fod ei chwaraewyr wedi cael gwahodd i fynd i mewn i ystafell newid yr ymwelwyr ar ddiwedd yr ornest.
“Alla i ddim dweud digon am Manchester City a’u rheolwr. Mae e’n enillydd o fri ac yn llawn parch.”