Mae trychineb Emiliano Sala a Chlwb Pêl-droed Caerdydd yn rhoi holl ddigwyddiadau clybiau eraill Cymru dros yr wythnosau diwethaf mewn persbectif, yn ôl Graham Potter, rheolwr Abertawe.
Daeth ei sylwadau cyn y Cadarnhad mai corff Emiliano Sala, chwaraewr Caerdydd, oedd yng ngweddillion awyren oddi ar ynysoedd y Sianel.
Fe fu Abertawe yn y penawdau hefyd yn dilyn ymddiswyddiad y cadeirydd Huw Jenkins, a Wrecsam yn ffarwelio â’u rheolwr Graham Barrow.
“Mae gan yr holl glybiau eu problemau, eu heriau, eu hunaniaeth eu hunain. Ond tra mai ein problemau ni’n hunain ydyn nhw, mae yna drasiedi i lawr y ffordd sy’n rhoi’r cyfan mewn persbectif,” meddai Graham Potter wrth golwg360.
Casnewydd yn arwain y ffordd
Ond mae llwyddiant Casnewydd yng Nghwpan FA Lloegr yn destun balchder yng nghanol y digwyddiadau trist a negyddol.
Maen nhw wedi ennill yr hawl i herio Man City yng Nghwpan FA Lloegr yr wythnos nesaf, wrth anelu am le yn rownd yr wyth olaf. Maen nhw eisoes wedi curo Leicester City yn y gystadleuaeth.
Ac mae Graham Potter yn dweud bod eu llwyddiant yn “ffantastig”.
“Wnaethon ni chwarae yn eu herbyn nhw cyn dechrau’r tymor, ac fe wnaethon nhw greu argraff arna’i, yn enwedig eu hysbryd a’u rheolwr [Mike Flynn].
“Dyw nifer y canlyniadau da maen nhw wedi cael ddim yn ddamwain.
“Maen nhw wedi rhoi tipyn o hwb, nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i bêl-droed yng Nghymru.
“Mae’r gêm yng Nghasnewydd, a dw i’n credu y byddan nhw’n chwarae rygbi ar y cae bob dydd nawr [i dorri’r cae]! Bydd hi bron fel gêm gwpan hen ffasiwn fel oedd hi’n arfer bod ar y teledu, felly bydd hi’n anhygoel.”
Fe fu awgrym y gallai’r gêm gael ei symud i Stadiwm Principality.
“Nid dyna [sut mae pethau i fod yn] y gwpan,” meddai.
Abertawe v Brentford
Gêm yn erbyn Brentford sydd gan Abertawe, ond mae Graham Potter yn canolbwyntio ar y gynghrair am y tro, wrth groesawu Millwall i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.
“Mae gyda ni gwpwl o gemau’n gyntaf, ond ry’n ni’n edrych ymlaen at bumed rownd y gwpan, ac fe wnawn ni’n gorau i gyrraedd yr wyth olaf.
“Ond byddwn ni’n wynebu tîm Brentford anodd iawn. Maen nhw’n dîm da.
“Fe gawson nhw gyfnod anodd pan chwaraeon ni yn eu herbyn nhw ddiwethaf.
“Ond mae eu chwaraewyr nhw’n dalentog, mae ganddyn nhw griw da o chwaraewyr ifainc a dw i’n sicr y bydd hi’n gêm dda.”