Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe’n dweud eu bod yn croesawu addewid y perchnogion i gydweithio er mwyn dod o hyd i gadeirydd newydd.
Daeth cadarnhad neithiwr (nos Sadwrn, Chwefror 2) fod Huw Jenkins yn camu o’r neilltu ar ôl 17 o flynyddoedd, yn dilyn beirniadaeth o’r ffordd y gwnaeth e a’r perchnogion fethu â denu chwaraewyr i’r cae yn ystod y ffenest drosglwyddo ddiweddaraf.
Ac fe fu bron iddyn nhw golli nifer o chwaraewyr blaenllaw, gan gynnwys y Cymro Daniel James (i Leeds) a’r capten Leroy Fer (i Aston Villa).
“Mae Ymddiriedolaeth yr Elyrch yn nodi ymddiswyddiad Huw Jenkins,” meddai’r datganiad. “Mae Mr Jenkins yn haeddu clod am ei ran yn nyrchafiad yr Elyrch i’r Uwch Gynghrair ac am hynny, mae’r Ymddiriedolaeth yn diolch iddo.”
‘Euog’
Ond mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am fethiannau dros y blynyddoedd diwethaf.
“Ar achlysur ei ymddiswyddiad, fodd bynnag, rhaid i ni nodi, unwaith eto, ei ran yn y ffordd y cafodd gwerthiant y clwb i’w berchnogion presennol ei gwblhau, yn ogystal ag effaith negyddol barhaus y gwerthiant hwnnw.
“Mae hefyd yn bwysig cofio euogrwydd Mr Jenkins am y trafodion trosglwyddo trychinebus dros y tri thymor diwethaf, sef y prif reswm pam fod y clwb yn ei sefyllfa bresennol.
“Am y rhesymau hyn, roedd newid yn anochel ac yn angenrheidiol.
“Bydd hanes yn penderfynu ar safle Huw Jenkins yn hanes Abertawe.”
‘Addewid’
Wrth droi eu sylw at y perchnogion Jason Levien a Steve Kaplan, dywed yr Ymddiriedolaeth eu bod nhw wedi “addo” cydweithio er mwyn dod o hyd i olynydd i Huw Jenkins.
“Mae’r Ymddiriedolaeth o hyd yn barod i sgwrsio â pherchnogion y clwb am unrhyw fater, unrhyw bryd.”
Dydy’r clwb ddim wedi ymateb i’r datganiad.