Fe fydd y chwilio am Emiliano Sala, pêl-droediwr 28 oed Caerdydd, yn dechrau unwaith eto yfory (dydd Sul, Chwefror 3).
Daeth y chwilio swyddogol i ben ar Ionawr 24, dridiau’n unig wedi i’r awyren yr oedd e’n teithio ynddi fynd ar goll dros ynysoedd y Sianel wrth fynd o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd.
Mae’r awdurdodau’n dweud nad oes fawr o obaith o ddod o hyd iddo fe na’r peilot David Ibbotson, 59, yn fyw. Daeth yr awdurdodau o hyd i ddau glustog oddi ar seddau’r awyren ddechrau’r wythnos.
Y gwyddonydd morwrol David Mearns fydd yn cydlynu’r ymgais newydd i ddod o hyd iddyn nhw, ac fe fydd saith o bobol yn gweithio gyda fe, ynghyd ag awdurdod yr AAIB (Cangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr).
Byddan nhw’n chwilio ardal o bedair milltir sgwâr i’r gogledd o ynys Guernsey.