Fe fydd tîm pêl-droed Caerdydd yn chwarae gartref heddiw (dydd Sadwrn, Chwefror 2), a hynny am y tro cyntaf ers diflaniad yr ymosodwr Emiliano Sala.

Roedd e’n teithio o Nantes yn Llydaw i Gaerdydd pan aeth ei awyren ar goll dros ynysoedd y Sianel.

Dydy e na’r peilot David Ibbotson ddim wedi cael eu gweld ers y digwyddiad ar Ionawr 21, ddeuddydd wedi trosglwyddiad yr Archentwr i’r Adar Gleision am £15m, sy’n record i’r clwb.

Bydd teyrnged yn cael ei rhoi cyn yr ornest yn erbyn Bournemouth heddiw (5.30yh), wrth i “funud i feddwl” gael ei chynnal cyn y gic gyntaf. Bydd y ddau gapten yn gosod blodau ar y cae.

‘Doedd neb eisiau dod o dan yr amgylchiadau’

Wrth i’r ffenest drosglwyddo gau nos Iau (Ionawr 31), dywedodd Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, nad oedd unrhyw chwaraewyr eisiau symud i’r clwb yn dilyn diflaniad Emiliano Sala, gan deimlo y bydden nhw’n cymryd ei le.

“Doedd un neu ddau o’r ymosodwyr buon ni’n siarad â nhw ddim wir eisiau dod o dan yr amgylchiadau,” meddai.

“Doedden nhw ddim am ddod i mewn wedi’r hyn sydd wedi digwydd. Felly fe fu’n ffenest anodd iawn.”