Mae Graham Potter, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn dweud nad yw Marcelo Bielsa, rheolwr Leeds, wedi gwneud unrhyw beth o’i le drwy ysbïo ar dimau eraill yn ymarfer – ond fod yr helynt yn codi cwestiynau am “ddangos parch”.
Fe fu’n siarad â golwg360 ar drothwy’r gêm yn erbyn Sheffield United yn Stadiwm Liberty heno (nos Sadwrn, 5.30yh).
Daeth ei sylwadau drannoeth cynhadledd ryfeddol gerbron y wasg yn Leeds, lle’r oedd Marcelo Bielsa yn dangos ffeil ar gyfrifiadur yn amddiffyn ei ddefnydd o ysbïo ar dimau eraill yn ymarfer cyn gemau.
Yn ystod y cyflwyniad, oedd yn datgelu tactegau Leeds yn erbyn Derby, fe ddaeth cadarnhad fod Leeds yn dilyn hynt a helynt y Cymro Daniel James, un o chwaraewyr canol cae yr Elyrch.
“Pwy ydw i i ddweud sut olwg ddylai fod ar y gêm? Mater o reolau yw hynny,” meddai wrth golwg360.
“Ond o fewn hynny, dw i wastad o’r farn mai parch yw’r gair mawr.
“Hoffwn i feddwl ’mod i’n dangos parch i’r gwrthwynebwyr, i’r dyfarnwyr, i’r chwaraewyr, i’n cefnogwyr ni, ac o’r fan honno, mae’r ffordd dw i’n chwarae’r gêm yn wahanol i rywun arall.
“Dw i ddim yn well nac yn waeth nag unrhyw un arall, ond rydyn ni’n mynd o gwmpas ein gwaith yn y modd yma, a dw i’n credu mai dyna’r unig ffordd i fynd ati.
“Nid mater yw hwn i fi bregethu yn ei gylch e, nac am bwy ddylai wneud beth.”
‘Pethau pwysicach’ i’w trafod
“Dw i’n cytuno [gyda Chris Wilder, rheolwr Sheffield United] fod yna bethau pwysicach [i’w trafod], ond fy marn i yn unig yw hynny,” meddai wedyn.
Fel Chris Wilder, sy’n awgrymu bod taclo blêr a phwyso ar ddyfarnwyr yn fwy o broblem nag ysbïo, mae Graham Potter yn dweud nad yw testun yr helynt ysbïo yn un o’i brif flaenoriaethau.
“Oni bai bod rhywun yn torri’r rheolau, a dw i’n deall nad yw e wedi gwneud hynny, yna mae’n drafodaeth ar fy marn wrthrychol i am sut olwg ddylai fod ar y gêm. Gall hynny amrywio.
“Weithiau, dw i’n credu bod y ffordd y mae timau’n ymddwyn yn yr ardal dechnegol yn mynd dros ben llestri.
“Weithiau, gall pa mor gorfforol yw tacl fod rywfaint yn ddifater.
“Ond mater o farn yw hyn i gyd, mae’r cyfan yn wrthrychol.
“Does dim byd y galla i ei wneud am y gêm. Dyna sut mae hi.
“Dw i’n dueddol o gytuno gyda Chris, fod y ddadl rhwng deifio a thaclo yn ddadl hardd. Mae’n ymddangos ei bod yn iawn i dorri a chwalu coes rhywun a dod â’u gyrfa i ben, on dos ydych chi’n deifio, fod hynny rywsut yn waeth?
“Neu os gall amddiffynnwr glirio’r bêl a chwympo ar y llawr, mae pobol fel pe baen nhw’n dweud, “Mae e wedi gwneud yn dda, mae e wedi dehongli’r sefyllfa’n dda” ond os yw ymosodwr yn ei wneud e, mae’n twyllo.
“Mae llawer o bethau hardd yn digwydd yn y gêm sy’n ei gwneud hi’n ddiddorol.”
Marcelo Bielsa yn “unigryw ac arbennig”
“Ry’n ni’n sôn fan hyn am rywun sy’n unigryw ac arbennig yn nhermau sut mae e’n mynd o gwmpas ei waith,” meddai, wrth drafod rhinweddau’r rheolwr dadleuol.
“O ran ei brofiad pêl-droed, mae [Pep] Guardiola a [Mauricio] Pochettino yn dweud iddo fe ddylanwadu arnyn nhw, felly ry’n ni’n sôn am rywun sy’n gwneud rhywbeth yn iawn.
“Dw i’n meddwl mai’r pwynt roedd e’n ceisio’i gyfleu yw ei fod e’n gwneud yr holl ddadansoddi yma ac yn gwylio rhywfaint o ymarferion ond mewn gwirionedd, mae yna lawer o bethau sy’n gorfod digwydd [er mwyn ennill gemau].
“Dim ond dadansoddi’r gorffennol mae e, ac ry’n ni’n byw mewn byd ymfflamychol iawn – mae’r byd pêl-droed yn un ffrwydrol, ac mae’r 90 munud hynny’n gwbl ffrwydrol.
“Gallwch chi gael yr holl wybodaeth yma am y gorffennol a’ch dadansoddiad ac fel hyfforddwr, rydych chi’n gadael y cyfan yn nwylo’r chwaraewyr.”
Gwarchod ei iechyd meddwl
Mae Graham Potter yn dyfalu mai un o’r rhesymau pam fod Marcelo Bielsa – sy’n cael ei alw’n ‘El Loco’ (yr Un Gwallgof) – mor awyddus i gadw llygad barcud ar ei wrthwynebwyr yw er mwyn gwarchod ei iechyd meddwl, a bod yn dawel ei feddwl ei fod e wedi paratoi’n drylwyr.
“Chi yw’r boi ar y cyrion pan fo’r gôl yn mynd i mewn a phan fo boi yng nghefn yr eisteddle wedi cael ambell i gwrw, chi sy’n ei chael hi ganddo fe,” meddai am bwysau’r swydd.
“Dydy’r swydd ddim yn un hawdd. Galla i uniaethu o safbwynt iechyd meddwl, o ran teimlo’ch bod chi wedi gwneud popeth allwch chi.
“Mae wedi codi llawer o bethau diddorol, a dw i’n credu ei fod e’n foi clyfar. Mae’r holl drafod amdano fe, ac nid fod y tîm ar frig y gynghrair.”