Mae dyfalu y gallai Andy King, chwaraewr canol cae Cymru, ddychwelyd i Glwb Pêl-droed Abertawe.

Mae’n ymddangos ei fod e wedi chwarae yn ei gêm olaf i Leicester City pan gawson nhw eu curo gan Gasnewydd yng Nghwpan FA Lloegr ddydd Sul diwethaf.

Fe ddaeth i’r cae yn eilydd yn yr ail hanner, gyda’r rheolwr Claude Puel yn dweud ei fod yn gyfle i’r chwaraewr ffarwelio â’r cefnogwyr.

Mae ganddo fe 18 mis yn weddill o’i gytundeb, ond mae’n cael ei dargedu gan Abertawe a nifer o glybiau eraill.

Treuliodd Andy King ail hanner y tymor diwethaf ar fenthyg yn y Liberty, gan sgorio ddwywaith mewn 11 o gemau.