Casnewydd 2–1 Leicester City
Mae Casnewydd ym mhedwaredd rownd y Cwpan FA yn dilyn buddugoliaeth fythgofiadwy yn erbyn Leicester City yn y drydedd rownd ar Rodney Parade brynhawn Sul.
Roedd hi’n ymddangos fod yr ymwelwyr o Uwch Gynghrair Lloegr yn mynd i gipio gêm gyfartal o leiaf pan unionodd Rachid Ghezzal wyth munud o’r diwedd.
Ond roedd gan Gasnewydd syniadau gwahanol wrth i Padraig Amond adfer mantais ei dîm o’r smotyn i ennill y gêm dri munud yn unig yn ddiweddarach.
Hanner vyntaf
Dechreuodd Leicester City yn gryf ac roedd angen arbediad da gan Joe Day i atal Ghezzal rhag rhoi’r ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond pedwar munud.
Casnewydd, yn hytrach, a aeth ar y blaen yn erbyn llif y chwarae wedi deg munud. A gôl dda oedd hi hefyd, rhediad a chroesiad gwych gan Robbie Willmott ar y dde a pheniad cywir Jamille Matt yn y canol yn curo Danny Ward yn y gôl.
Codi’r bêl o gefn y rhwyd a oedd cyfraniad cyntaf y Cymro, Danny Ward, ond buan iawn y newidiodd hynny wrth i Gasnewydd bwyso am ail.
Gwnaeth gôl-geidwad Cymru ddau arbediad da i atal Matty Dolan, y cyntaf o gic rydd a’r ail wedi symudiad cic gornel slic yn syth o’r cae ymarfer.
Ail hanner
Un gôl ynddi ar yr egwyl felly a Chasnewydd yn llawn haeddu bod ar y blaen. Dechreuodd y tîm cartref yr ail hanner yn addawol hefyd ond, yn raddol, dechreuodd Leicester City reoli.
Bu bron i Marc Albrighton unioni pethau gyda chynnig da o bellter toc cyn yr awr ond tarodd ei ergyd yn erbyn y trawst.
Aeth yr amddiffyn cartref yn ddyfnach ac yn ddyfnach ac fe ddaeth gôl i’r ymwelwyr yn y diwedd, wyth munud o ddiwedd y naw neg.
Gwnaeth Joe Day yn dda i atal cynnig gwreiddiol James Maddison ond adlamodd y bêl yn garedig i Ghezzal ugain llath allan ac anelodd yntau fellten o ergyd a oedd yn rhy boeth i’r golwr.
Ond os oedd unrhyw un yn disgwyl i Gasnewydd fodloni ar gêm gyfartal ac ail chwarae wedi hynny roedd gan dîm Mike Flynn syniadau gwahanol.
Llawiodd Albrighton groesiad Vashon Naufville yn y cwrt cosbi a chafodd Ward ei anfon y ffordd anghywir gan gic o’r smotyn daclus Amond.
Daliodd yr Alltudion eu gafel wedi hynny ei sicrhau buddugoliaeth enwog ar Rodney Parade a’u lle yn y bedwaredd rownd am yr ail dymor yn olynol.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Hornby-Forbes (Pipe 67’), Franks, Demetriou, Neufville, Bennett, Dolan (O’Brien 86’), Willmott, Amond, Aemenyo, Matt (Bakinson 77’)
Goliau: Matt 10’, Amond [c.o.s.] 85’
.
Caerlŷr
Tîm: Ward, Simpson (Gray 60’), Morgan, Evans, Fuchs, Choudhury, James (King 72’), Ghezzal, Okazaki (Maddison 45’), Albrighton, Iheanacho
Gôl: Ghezzal 82’
Cerdyn Melyn: Okazaki 45+1’
.
Torf: 6,705