Mae Neil Warnock, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi cyhuddo Clwb Pêl-droed Lerpwl o ymddygiad “gwarthus” yn y ffordd y gwnaethon nhw anfon Nathaniel Clyne ar fenthyg i Bournemouth.
Mae’r rheolwr 70 oed yn honni bod y Cochion wedi addo’r amddiffynnwr iddyn nhw cyn iddo fynd i Bournemouth, ac mae’n dweud ei fod e wedi clywed y newyddion ar y teledu ddydd Gwener (Ionawr 4).
Mae Neil Warnock hefyd wedi beirniadu Nathaniel Clyne, un o’i chwaraewyr yn Crystal Palace ddegawd yn ôl.
“Mae ei weld e ar y teledu pan dw i wedi gwneud popeth yn y modd cywir, ac ar ôl iddyn nhw addo mai fy chwaraewr i yw e yr wythnos hon, i fi, yn warthus ac yn [dangos] diffyg urddas,” meddai.
Roedd yn ergyd ddwbwl i’r Adar Gleision, wrth iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Gillingham o’r Adran Gyntaf yn nhrydedd rownd Cwpan FA Lloegr.
“Yr hyn sydd wedi fy siomi, o adnabod Nathaniel, yw na ches i alwad ffôn gan Nathaniel na Lerpwl. Ro’n i’n meddwl bod hynny’n drewi.
“Ro’n i’n meddwl ei fod yn siom, yn ddiffyg urddas, beth bynnag fynnoch chi ei alw fe.
“Pan ydych chi’n aros ac yn ei wneud e mewn modd cywir, dw i’n credu eich bod yn haeddu parch a dw i ddim yn credu ei bod nhw wedi dangos hynny i ni.”
Colli cyfle
Yn ôl Neil Warnock, collodd Caerdydd gyfle i ddenu nifer o chwaraewyr wrth iddyn nhw aros am gadarnhad ynghylch Nathaniel Clyne.
“Mae’n bosib y dylwn i fod wedi bod yn ceisio’i ddenu fe’n anghyfreithlon, am wn i?” meddai.
“Ond fe wnes i bopeth yn y modd cywir ac fe ddaeth Bournemouth i mewn.
“Dw i wedi colli allan ar dri chwaraewr oherwydd yr aros fan hyn. Fe gollais i ddau gefnwr ac ymosodwr oherwydd do’n i ddim yn gallu eu denu nhw ar fenthyg. Mae’r siom yn ddeublyg.”
Mae Clwb Pêl-droed Lerpwl wedi gwrthod gwneud sylw.
Beirniadu staff meddygol Gillingham
Yn y cyfamser, mae Neil Warnock hefyd wedi beirniadu staff meddygol Gillingham am oedi wrth drin chwaraewyr.
Cafodd Kadeem Harris a Danny Ward eu hanafu yn ail hanner y gêm.
Cafodd Kadeem Harris driniaeth ar y cae am anaf i’w ysgwydd, ond roedd oedi hir cyn ei gludo oddi ar y cae ar stretsiar, ac fe gafodd Danny Ward anaf i’w ên.
“Pe bai e wedi cael trawiad ar y galon, fe fyddai e’n farw erbyn hyn,” meddai.
“Mae ganddyn nhw dipyn i’w ddysgu, dw i’n meddwl.
“Pa bynnag adran ydych chi, rydych chi’n poeni am eich chwaraewyr os nad ydyn nhw’n cael y driniaeth gywir, ac roedden ni’n aros am y stretsiar am wn i ddim faint o amser.”