Crystal Palace 0–0 Caerdydd

Cafodd Caerdydd bwynt prin oddi cartref yn Uwch Gynghrair Lloegr ar ŵyl San Steffan gyda gêm gyfartal yn erbyn Crystal Palace.

Di sgôr a oedd hi yn Selhurst Park ond bydd Neil Warnock yn ddigon hapus gyda’r pwynt, dim ond ail ei dîm ar y ffordd y tymor hwn.

Llwyr reolodd y tîm cartref y gêm ond heb lwyddo i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Andros Townsend a Luke Milivojevic a ddaeth agosaf ond daeth y trawst a’r postyn i’r adwy i’r Adar Gleision.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn yr ail safle ar bymtheg yn y tabl ond mae’r bwlch rhyngddynt a’r tri isaf bellach wedi tyfu i dri phwynt.
.

Crystal Palace

Tîm: Guaita, Wan-Bissaka, Tomkins, Sakho, van Aanholt, McArthur, Kouyate, Milivojevic, Meyer (Wickham 63’), Zaha, Townsend

.

Caerdydd

Tîm: Etheridge, Peltier, Ecuele-Manga, Morrison, Bamba, Bennett, Harris, Camarasa (Gunnarsson 90+1’), Ralls, Hoilett (Arter 90+2’), Reid

Cardiau Melyn: Bamba 31’, Hoilett 45+1’, Camarasa 77’

.

Torf: 25,206