Hull 3–2 Abertawe                                                                             

Cafodd Abertawe eu trechu gan dair gôl mewn deg munud wrth iddynt ymweld â Stadiwm KCOM i wynebu Hull yn y Bencampwriaeth nos Sadwrn.

Roedd yr Elyrch ar y blaen am gyfnod hir diolch i gôl gynnar Bony ond enillodd y tîm cartef y gêm diolch i dair gôl gyflym yn chwarter olaf y gêm.

Aeth Abertawe ar y blaen yn y trydydd munud gydag ergyd isel gywir Wilfried Bony i’r gornel isaf o ugain llath.

Arhosodd yr ymwelwyr ar y blaen tan yr egwyl, er mai cael a chael oedd hi ym munudau olaf yr hanner.

Cafodd Fraizer Campbell ei lorio gan Erwin Mulder yn y cwrt cosbi chwe munud cyn troi ond gwnaeth y gôl-geidwad yn iawn am ei gamgymeriad gydag arbediad gwych o gic o’r smotyn Jarrod Bowen.

A gwnaeth y gŵr o’r Iseldiroedd arbediad arall ddau funud yn ddiweddarach i atal Kamil Grosicki rhag sgorio gôl unigol anhygoel.

Yn wir, arhosodd y Cymry ar y blaen tan ugain munud o’r diwedd ond newidiodd pethau’n ddramatig iawn mewn cyfnod o ddeg munud wedi hynny.

Manteisiodd Bowen ar gamgymeriad amddiffynnol Matt Grimes i unioni pethau o groesiad Campbell cyn i Tommy Elphick benio’r tîm cartref ar y blaen o gic gornel Grosicki.

Roedd Grimes ar fai eto wrth i Bowen grymanu ei ail ef a thrydedd ei dîm hebio Mulder ddeg munud o’r diwedd.

Cafwyd diweddglo agos wedi i ergyd yr eilydd, Bersant Celina, wyro heibio i David Marshall ac i gefn y rhwyd ond rhy ychydig rhy hwyr a oedd hi wrth i Hull ddal eu gafael.

Mae tîm Graham Potter yn llithro i’r deuddegfed safle yn nhabl y Bencampwriaeth.

.

Hull

Tîm: Marshall, Kane, Elphick, Mazuch (de Wijs 45’), Kingsley, Bowen, Stewart, Batty (Evandro 66’), Grosicki, Irvine, Campbell (Martin 85’)

Goliau: Bowen 70’, 80, Elphick 76’

Cerdyn Melyn: Campbell 59’

.

Abertawe

Tîm: Mulder, Roberts, van der Hoorn, Rodon, John (James 77’), Fer, Grimes, Routledge, McKay, Dyer (Celina 77’), Bony (McBurnie 64’)

Goliau: Bony 3’, Celina 88’

Cardiau Melyn: Fer 6’, van der Hoorn 59’

.

Torf: 10,848