Caerdydd 1–5 Man U
Colli’n drwm fu hanes Caerdydd wrth i Man U ymweld â Stadiwm y Ddinas yn Uwch Gynghrair Lloegr nos Sadwrn.
Sgoriodd yr ymwelwyr bump gôl mewn buddugoliaeth gyfforddus wrth i Ole Gunnar Solskjær ddychwelyd i Gaerdydd yn ei gêm gyntaf yng ngofal United.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi dim ond dau funud wrth i gic rydd Marcus Rashford ganfod cefn y rhwyd gydag awgrym o wyriad oddi ar Callum Paterson yn y mur amddiffynnol.
Cafwyd gwyriad mwy o lawer wrth i Man U ddyblu eu mantais wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae, Ander Herrera yn curo Neil Etheridge o bellter gyda chymorth andros o wyriad oddi ar Greg Cunningham.
Roedd Caerdydd yn ôl yn y gêm saith munud cyn yr egwyl diolch i gic o’r smotyn Victor Camarasa, y Sbaenwr yn rhwydo’n daclus o ddeuddeg llath wedi llawiad Rashford yn y cwrt cosbi.
Adferodd Man U eu dwy gôl o fantais cyn yr egwyl serch hynny diolch i gôl orau’r gêm, Anthony Martial yn gorffen yn dda i gwblhau symudiad tîm hynod slic.
Roedd buddugoliaeth yr ymwelwyr mwy neu lai yn ddiogel toc cyn yr awr diolch i bedwaredd gôl, Jesse Lingard yn cael ei lorio yn y cwrt cosbi gan Sol Bamba cyn codi ar ei draed i guro Etheridge o’r smotyn.
Cafodd y ddau dîm gyfleoedd wedi hynny ac roedd angen arbediadau da gan David De Gea i atal Josh Murphy yn un pen ac Etheridge i atal Paul Pogba yn y llall.
Roedd digon o amser am un gôl hwyr wedi hynny, ail Lingard a phumed ei dîm, yn torri’r trap camsefyll cyn mynd heibio Etherdige a llithro’r bêl i rwyd wag.
Mae’r canlyniad yn gadael Caerdydd yn beryglus o agos i safleoedd y gwymp, ddau bwynt yn unig yn glir yn yr ail safle ar bymtheg.
.
Caerydd
Tîm: Etheridge, Ecuele Manga, Morrison, Bamba, Cunningham, Gunnarsson (Ralls 83’), Hoilett (Harris 74’), Camarasa, Arter (Zohore 61’), Murphy, Paterson
Gôl: Camarasa [c.o.s.] 38’
Cardiau Melyn: Gunnarsson 58’, Cunningham 79’
.
Man U
Tîm: De Gea, Young, Linderlof, Jones, Shaw, Herrera, Matic (Fellaini 87’), Pogba, Lingard, Rashford (Fred 79’), Martial (Pereira 87’)
Goliau: Rashford 3’, Herrera 29’, Martial 41’, Lingard [c.o.s.] 57’, 90’
Cerdyn Melyn: Shaw 35’
.
Torf: 33,028