Mae Ole Gunnar Solskjaer, rheolwr dros tîm pêl-droed Man U, wedi gofyn am gyngor gan Syr Alex Ferguson ar drothwy’r gêm yn erbyn ei hen glwb Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Rhagfyr 22).

Cafodd cyn-ymosodwr Man U ei benodi dros dro ar ôl i Jose Mourinho gael ei ddiswyddo’r wythnos hon ar ôl dechreuad gwaethaf y clwb i dymor yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Ac fe ddaw ei gêm gyntaf wrth y llyw yn erbyn yr Adar Gleision, lle’r oedd e’n rheolwr pan wnaethon nhw ostwng i’r Bencampwriaeth yn 2014.

“Wel, fe wnaeth e fy arwyddo i 22 o flynyddoedd yn ôl, felly mae e’n rhan fawr o’r cyfan, wrth gwrs,” meddai.

“Dw i ddim yn gwybod pa fewnbwn gafodd e [yn y penodiad] ond pan ges i’r alwad, fe wnes i decstio’r bos.

“Dw i wedi bod mewn cyswllt gyda fe ac yn mynd i fwynhau paned o de yn ei gartref er mwyn cael eistedd a thrafod ambell syniad.”

‘Neb gwell’

Does neb gwell i geisio cyngor ganddo fe na Syr Alex Ferguson, yn ôl Ole Gunnar Solskjaer.

“Ry’n ni i gyd yn wahanol o safbwynt sut ry’n ni’n rheoli pobol, ac roedd y rheolwr yn wahanol gyda phob unigolyn,” meddai.

Ac mae’n dweud, fel Syr Alex Ferguson, na fydd e’n ofni defnyddio’r sychwr gwallt enwog i geryddu chwaraewyr.

“Pan fo angen codi ‘ngwallt, dw i’n ei ddefnyddio arnaf fi fy hun ond dw i ddim yn ofni dweud y drefn, fel petai.

“Gyda’ch plant, pan bo nhw’n eich siomi chi, ry’ch chi’n eu ceryddu nhw.

“Dydych chi ddim yn rhoi siocled iddyn nhw, nac ydych? Felly rydych chi’n trin chwaraewyr fel byddwch chi’n trin eich plant oherwydd rydych chi am sicrhau’r gorau iddyn nhw, rydych chi am eu harwain nhw, ond os ydw i’n cael fy siomi…”