Cafodd rheolwr tîm pêl-droed Wrecsam, Sam Ricketts gyngor i gadw draw o’r Cae Ras neithiwr ar gyfer eu gêm yn erbyn Casnewydd yn ail rownd Cwpan FA Lloegr.

Gorffennodd y gêm yn gyfartal ddi-sgôr.

Mae adroddiadau’n cysylltu cyn-amddiffynnwr Cymru â swydd rheolwr Amwythig, sydd heb reolwr ar ôl diswyddo John Askey ar Dachwedd 12, ar ôl pum mis wrth y llyw yn yr Adran Gyntaf.

Cafodd Sam Ricketts ei benodi’n rheolwr ar Wrecsam ym mis Mai ac ers hynny, mae e wedi arwain ei dîm i’r trydydd safle yn y Gynghrair Genedlaethol.

Un arall sydd wedi’i gysylltu â swydd rheolwr Amwythig yn y gorffennol yw rheolwr Casnewydd, Mike Flynn.

Arestio dau

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod dau o gefnogwyr Wrecsam wedi cael eu harestio yn ystod y gêm.

Cafodd y naill ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar yr heddlu, tra bod y llall wedi’i arestio ar amheuaeth o daflu tân.