Mae Neil Warnock, rheolwr Caerdydd, wedi diolch i’w chwaraewyr am sicrhau tri phwynt i’r tîm wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Roedd wedi dweud cyn y gêm neithiwr mai buddugoliaeth dros Wolves oedd ei ddymuniad mawr cyn ei benblwydd arbennig heddiw.
Cafodd ei ddymuniad wrth i Aron Gunnarsson a Junior Hoilett sgorio yn yr ail hanner, gan godi Caerdydd allan o’r tri isaf i’r 15fed safle.
“Dw i wedi diolch i’r chwaraewyr am adael imi gael penblwydd hapus,” meddai. “Dyna pam dw i’n dal yn y gêm, pan welwch chi’ch tîm yn perfformio fel hyn.”
Dim ond dau bwynt a gafodd Caerdydd yn eu wyth gêm gyntaf yn yr uwch gynghrair, gyda llawer yn cymryd yn ganiataol y byddan nhw’n mynd yn ôl i lawr.
Mae pethau wedi gwella rhywfaint ers hynny, gyda buddugoliaethau yn erbyn Fulham a Brighton yn ogystal â Wolves neithiwr.