Mae llys yn yr Almaen wedi dedfrydu dyn i 14 blynedd o garchar am ymosodiad ar fws tîm Borussia Dortmund y llynedd.

Mae’r diffynnydd, sydd wedi’i enwi’n unig fel Sergej W yn unol â rheolau preifatrwydd yr Almaen, wedi’i gael yn euog gan lys sirol Dortmund.

Fe gafodd amddiffynwr tim Borussia Dortmund, Marc Bartra, ynghyd â phlismon, eu hanafu pan ffrwydrodd tair dyfais a tharo bws y tim wrth iddo adael gwesty am gêm Cynghrair y Pencampwyr ar Ebrill 11, 2017.

Yn ôl erlynwyr, roedd Sergej W wedi gosod bet y byddai gwerth cyfranddaliadau Borussia Dortmund yn cwympo, cyn bomio’r bws a cheisio rhoi’r argraff mai ymosodiad terfysgol oedd y digwyddiad.