Thierry Henry, a gafodd ei hyfforddi gan y Cymro Osian Roberts i fod yn hyfforddwr pêl-droed, yw rheolwr newydd tîm Monaco yn Ffrainc.
Roedd adroddiadau ddechrau’r wythnos yn ei gysylltu â swydd rheolwr Aston Villa, cyn i Dean Smith gael ei benodi’n olynydd i Steve Bruce.
Cafodd y Ffrancwr ei hyfforddi gan is-reolwr Cymru wrth iddo ennill ei gymwysterau hyfforddi gan UEFA, ac mae’n dychwelyd i’w glwb cyntaf i olynu Leonardo Jardim, a gafodd ei ddiswyddo ddydd Iau.
Yn fwyaf diweddar, fe fu’n is-reolwr Gwlad Belg o dan Roberto Martinez, cyn-reolwr Abertawe.
Mae wedi arwyddo cytundeb tan fis Mehefin 2021.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd Thierry Henry fod Monaco yn agos at ei galon.
Yn ymuno â’i dîm hyfforddi mae cyn-chwaraewr Abertawe, Kwame Ampadu, tad chwaraewr canol cae Cymru Ethan. Fe fu’n gweithio yn Academi Arsenal.