Mi fydd tîm pêl-droed Cymru yn herio cewri Sbaen yng Nghaerdydd heno (nos Iau, Hydref 11) ond nid yn ‘Stadiwm y Pincipality’.
Yn hytrach, ‘Stadiwm Genedlaethol Cymru’ fydd yr enw swyddogol ar y maes lle mae tîm ifanc Ryan Giggs yn herio dynion Luis Enrique.
Corff llywodraethu pêl-droed UEFA sydd wedi galw am y newid. Mae eu canllawiau masnachol 2018-2022 yn datgan nad oes hawl hysbysebu.
A chan mai ena cymdeithas adeiladu ydi Principality, mae hwnnw allan ohoni.
“fanteisio ar holl hawliau cyfryngau pob un o’r canlynol: (i) Gemau Cymhwyso Ewrop
Mae’n debyg y byddai llawer yn dadlau fod ‘Stadiwm Genedlaethol Cymru’ yn enw llawer mwy addas i stadiwm fwyaf Cymru.
Cafodd ei alw yn Stadiwm Genedlaethol Cymru unwaith o’r blaen pan enillodd Real Madrid o bedair gôl i ddim yn erbyn Juventus yn ffeinal Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017.