Roedd y pwynt a gafodd Abertawe yn Wigan nos Fawrth yn “ddigon i adeiladu arno”, yn ôl y rheolwr Graham Potter.

Yr Elyrch yw’r ail dîm yn unig y tymor hwn i osgoi colli yn Stadiwm DW.

Daeth cyfle i Oli McBurnie gipio’r triphwynt yn niwedd y gêm ond fe gafodd ei ergyd ei hatal gan yr amddiffynnwr canol Chey Dunkley.

Daeth cyfle mwya’r Saeson pan gafodd y bêl ei phasio’n ôl yn llac i’r golwr Kristoffer Nordfeldt i roi cyfle i’r eilydd Will Grigg rwydo.

“Ro’n i’n credu’n bod ni wedi chwarae’n dda ar adegau, wedi creu nifer o gyfleoedd da, ac ro’n i’n meddwl bod yr ysbryd yn wych ” meddai.

“Fe gawson nhw [Wigan] nifer o eiliadau mawr hefyd ac ar y cyfan, fe gymerwch chi bwynt ar y lefel yma, llechen lan a digon i adeiladu arno.”