Mae tîm pêl-droed Wrecsam yn croesawu Aldershot i’r Cae Ras heddiw (dydd Sadwrn, 3 o’r gloch) gyda dim ond un fuddugoliaeth yn eu tair gêm ddiwethaf.
Ond bydd y Cymry heb eu chwaraewr newydd Brad Walker, am nad yw’r gwaith papur yn gyflawn yn dilyn ei drosglwyddiad ar fenthyg o Crewe.
Collodd tîm Sam Ricketts am y tro cyntaf nos Lun, wrth i Solihull sgorio wyth munud cyn diwedd y gêm.
Ddeuddydd yn ddiweddarach, cawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Bromley ar y Cae Ras, wrth i Mike Fondop a Rekeil Pyke rwydo cyn i Frankie Sutherland sgorio o’r smotyn a’r Saeson yn sicrhau pwynt drwy gôl i’w rwyd ei hun gan Luke Summerfield.
Roedd Aldershot, yn y cyfamser, wedi curo Sutton ddydd Llun, a hynny ar ôl colli dwy gêm o’r bron yn erbyn Ebbsfleet a Harrogate.
Absenoldebau
Fydd Brad Walker ddim yn cael chwarae ar ôl symud ar fenthyg o Crewe tan fis Ionawr. Doedd ei waith papur ddim yn barod mewn da bryd, er bod Wrecsam yn disgwyl y byddai wedi cael chwarae.
Mae e wedi chwarae mewn dros 135 o gemau i Hartlepool a Crewe, ac yntau ond yn 22 oed.
Roedd amheuon hefyd am Manny Smith a James Jennings, sydd wedi bod yn dioddef o anafiadau.