Mae chwaraewr canol cae ifanc Cymru, David Brooks wedi symud o Sheffield United i Bournemouth ar ôl llofnodi cytundeb pedair blynedd.

Dydy ffi’r trosglwyddiad ddim wedi cael ei gadarnhau, ond mae Sheffield United wedi dweud eu bod nhw wedi derbyn y swm mwyaf erioed o arian am un o’u chwaraewyr.

Dywedodd David Brooks wrth wefan Clwb Pêl-droed fod “y cyfle i ddod i chwarae i glwb yn yr Uwch Gynghrair yn gyfle gwych”, a’i fod yn edrych ymlaen at gydweithio â’r rheolwr Eddie Howe.

Mae e wedi ennill tri chap dros Gymru ar ôl cynrychioli tîm dan 20 Lloegr.

Yn ôl Sheffield United, doedd ganddyn nhw “ddim bwriad” i werthu’r chwaraewr, gan awgrymu mai ei asiant oedd yn dymuno iddo symud i’r Uwch Gynghrair.