Bydd clwb pêl-droed Y Bala yn cychwyn am yr Eidal ddydd Mercher (Mehefin 27) i gwrdd â Tre Fiori yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Ewropa.

Mae Tre Fiori yn chwarae yn San Marino, ond bydd gêm nos Iau yn cael ei chwarae yn nhref Forli oherwydd bod stadiwm Tre Fiori ddim ar gael.

Mae rheolwr Y Bala, Colin Caton, yn sicr mai cael rhediad yn Ewrop basa cyflawniad mwyaf y clwb hyd yn oed yn fwy na ennill Cwpan Cymru.

“Pe bai’r Bala yn mynd drwodd, mi fasa’n wych i bawb yn y clwb a heb os ac ni bai fy nghyflawniad mwyaf ym myd pêl-droed,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n eithaf rhwystredig dros y blynyddoedd bod ni fel clwb heb allu aros yn Ewrop. I fod yn onest, mae’n fy ngwylltio i.

“Dw i wir yn gobeithio y bydd pethe’n wahanol y to hwn. Mi wnawn ni bob dim allwn ni i fynd drwodd.”

Mae’r gystadleuaeth wedi cael ei hail-drefnu y tymor hwn, ond dydi hi ddim yn glir eto a fydd hynny o fantais i glybiau fel Y Bala.

Mae’n bosib y gallen nhw wynebu AIK o Sweden yn gynnar ac mae cynghreiriau Sgandinafia hanner ffordd drwy’r tymor yn barod. Mae’r clwb  o Faes Tegid yn ffodus i gwrdd â Tre Fiori, efallai, gan fod eu cynghrair nhw yn rhedeg fel un Uwch Gynghrair Cymru.

Andy Mangan

Mae newidiadau wedi bod yng ngharfan Y Bala dros yr haf. Mae hanner dwsin o chwaraewyr wedi gadael, ond mae hen ffefryn Wrecsam, Andy Mangan, wedi ymuno.

“O’n i’n meddwl bod angen i ni wella ar y tymor diwethaf,” meddai Colin Caton wedyn. “Roedd hi’n amser gadael rhai i fynd, a dod â gwaed newydd i mewn.

“Mae arwyddo chwaraewr fel Andy Mangan yn dangos faint o bell ydan ni wedi dod. Roedd eisiau mynd yn rhan amser a phan glywodd ein hyfforddwr, Steve Fisher, hyn, mi wnaeth ei berswadio i ymuno â ni.

“Dw i’n sicr y bydd yn disgleirio yn y gynghrair.”