Sgoriodd Gareth Bale ddwy gôl nos Sadwrn wrth i Real Madrid guro Lerpwl o 3-1 i godi tlws Cynghrair y Pencampwyr yn Kiyv – a hynny’n dilyn adroddiadau y gallai’r Cymro adael y clwb i geisio mwy o amser ar y cae.
Daeth e oddi ar y fainc a sgorio chwip o gôl o fewn dwy funud, ei ergyd dros ei ben yn darganfod cefn y rhwyd.
Wrth siarad â BT Sport ar ddiwedd y gêm, dywedodd: “Ro’n i’n siomedig iawn nad o’n i wedi dechrau’r gêm.
“Ro’n i’n teimlo fel pe bawn i’n ei haeddu, ond y rheolwr sy’n gwneud y penderfyniadau, felly beth allwch chi’i wneud?
“Y gorau dw i wedi bod yn ei wneud yw dod ymlaen a chreu argraff, ac fe wnes i.”
Mae disgwyl iddo drafod ei ddyfodol ar ddiwedd y tymor, wrth i nifer o glybiau, gan gynnwys Man U, Chelsea a Spurs ddangos diddordeb ynddo.
Y gôl orau erioed
Dywedodd Gareth Bale mai ei gôl gyntaf neithiwr oedd ei orau erioed.
“Ffeinal Cynghrair y Pencampwyr, does dim llwyfan arall sy’n fwy a dw i’n hapus i gael y fuddugoliaeth.”
Aeth ei ail gôl drwy ddwylo Loris Karius yn y gôl, a chamgymeriad y golwr arweiniodd at gôl Karim Benzema hefyd.
Sadio Mane sgoriodd unig gôl y gêm i Lerpwl i unioni’r sgôr.