Mae’r dyn sy’n cael ei ystyried yn ffefryn i gael ei benodi’n rheolwr ar dîm pêl-droed Abertawe wedi wfftio’r adroddiadau’n ei gysylltu â’r swydd.
Daeth y Sais, sy’n rheolwr ar dîm Östersunds yn Sweden, yn agos at y swydd sawl gwaith yn y gorffennol.
Mae’r Elyrch yn chwilio am reolwr newydd ar ôl disgyn i’r Bencampwriaeth a phenderfynu peidio ag ymestyn cytundeb tymor byr Carlos Carvalhal.
Yn ôl Graham Potter, “dyfalu” yn unig yw’r adroddiadau’n ei gysylltu â’r swydd, ac fe fydd e wrth y llyw yn Östersunds heno ar gyfer y gêm yn erbyn IK Sirius.
Canmol
Mae Graham Potter yn cael ei ganmol am i’w dîm gyrraedd rowndiau olaf Cynghrair Europa cyn iddyn nhw golli yn erbyn Arsenal – er iddyn nhw guro’r Saeson yn Stadiwm Emirates.
Mae’r llwyddiant hwnnw wedi arwain at adroddiadau fod Abertawe’n awyddus unwaith eto i’w benodi.
Dywedodd Graham Potter wrth y wefan osdsport.se, “Dyfalu’n unig yw e. Am y tro, bydda i’n canolbwyntio ar gêm bwysig.”