Ni fydd y pêl droediwr, Hal Robson-Kanu, yn rhan o garfan Cymru wrth iddyn nhw wynebu Mecsico yn yr Unol Daleithiau yr wythnos nesaf.
Mae’r blaenwr sy’n chwarae i glwb West Brom wedi ennill 44 o gapiau dros Gymru, ac fe gafodd ei ganmol yn ystod y rownd chwarterol ym mhencampwriaeth yr Ewros yn 2016 am ei gôl enwog yn erbyn Gwlad Belg yn Lile.
Roedd Hal Robson-Kanu, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 29 oed heddiw (dydd Llun, Mai 21), yn chwaraewr cyson o dan gyn-reolwr Cymru, Chris Coleman, ac yn ffefryn ymhlith y cefnogwyr.
Ond mae rheolwr newydd Cymru, Ryan Giggs, wedi penderfynu peidio â’i gynnwys yn y tîm a fydd yn chwarae nos Lun nesaf (Mai 28), wrth iddo leihau maint y tîm o 32 i 23.
Wynebau cyfarwydd ddim yno
Ni fydd wynebau cyfarwydd megis Gareth Bale a Ben Woodburn yn rhan o’r tîm yn erbyn Mecsico, a hynny oherwydd bod y ddau yn chwarae i’w clybiau yng Nghynghrair y Pencampwyr yn Kiev.
Sam Vokes yw’r ymosodwr mwyaf profiadol yn y garfan, ac ynghyd â Tom Bradshaw, David Brooks a Tom Lawrence, fe fydd yna gyfle i’r chwaraewr ifanc, George Thomas, hefyd.
Mae’r amddiffynwyr, Adam Mathews a Joe Rodon, ynghyd â’r asgellwr, George Williams a’r ymosodwr, Marley Watkins, hefyd wedi cael eu tynnu allan o’r 32 gwreiddiol.
Y garfan:
Wayne Hennesey, Chris Maxwell, Adam Davies, Ashley Williams, Ben Davies, Chris Gunter, Tom Lockyer, Declan John, Connor Roberts, Chris Mepham, Ashley Richards, Lee Evans, Joe Ledley, Andy King, Aaron Ramsey, Harry Wilson, Michael Smith, Ryan Hedges, Sam Vokes, Tom Bradshaw, David Brooks, Tom Lawrence, George Thomas.