Mae chwaraewr canol cae tîm pêl-droed Abertawe, Tom Carroll wedi rhybuddio fod rhaid i’r clwb ailadeiladu os ydyn nhw am ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr.
Bydd yr Elyrch yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf ar ôl gorffen yn ddeunawfed a gostwng o’r brif adran am y tro cyntaf ers iddyn nhw gael eu dyrchafu yn 2011.
Roedd llygedyn o obaith pan gafodd Carlos Carvalhal ei benodi’n brif hyfforddwr ddiwedd mis Rhagfyr, ond roedden nhw heb fuddugoliaeth yn eu naw gêm olaf, er eu bod nhw wedi codi i’r trydydd safle ar ddeg ar un adeg.
‘Dull o chwarae’n hanfodol’
Yn ôl Tom Carroll, bydd dull yr Elyrch o chwarae o dan y rheolwr newydd – pwy bynnag fydd hwnnw – yn allweddol i’w gobeithon o ddychwelyd i’r Uwch Gynghrair.
“Rhaid i ni fyfyrio, ailadeiladu a bownsio’n ôl ar unwaith y tymor nesaf,” meddai.
“Gyda’r garfan oedd gyda ni, ddylen ni ddim bod wedi gorffen lle gwnaethon ni yn y tabl.
“Ond nawr, rhaid i ni edrych ymlaen a cheisio sicrhau bod y tymor nesaf yn fwy llwyddiannus o lawer na’r tymor hwn.
“Dw i’n credu bod rhaid i ni ddechrau chwarae pêl-droed a dychwelyd i’r athroniaeth oedd wedi gwneud y clwb hwn yn llwyddiannus.”