Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Ryan Giggs wedi enwi ei garfan ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico yn Rose Bowl Pasadena ar Fai 28.
Yn ôl y disgwyl, mae Gareth Bale allan o’r garfan am fod Real Madrid yn chwarae yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn Kiyv. Does dim lle ychwaith i Danny Ward am y bydd yntau ynghlwm wrth garfan Lerpwl ar gyfer y gêm honno.
Mae’r amddiffynnwr canol James Chester allan hefyd oherwydd ei fod yn priodi ac am fod Aston Villa yn rownd derfynol gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth.
Does dim lle ychwaith i Ethan Ampadu, sy’n parhau i fod allan ag anaf i’w ffêr, Neil Taylor, Ben Woodburn na Paul Dummett, er iddo yntau gael tymor da gyda Newcastle, na Joe Allen, sydd wedi’i anafu.
Mae ’na le…
Ond mae lle i Ashley Williams er ei dymor siomedig gydag Everton. Hefyd wedi’u cynnwys mae Joe Ledley, Tom Lawrence a George Williams. Mae Aaron Ramsey hefyd yn dychwelyd ar ôl methu’r daith i Gwpan Tsieina.
Mae nifer o wynebau llai cyfarwydd ac ifanc hefyd wedi’u cynnwys yn y garfan, gan gynnwys Chris Maxwell, Luke Pilling, Adam Davies, Declan John, Chris Mepham, Tom Lockyer, Regan Poole, Joe Rodon, Cameron Coxe, Michael Smith, Lee Evans a Marley Watkins.
Y garfan
Wayne Hennessey, Chris Maxwell, Luke Pilling, Adam Davies; Ben Davies, Declan John, Ashley Richards, Ashley Williams, Chris Mepham, Tom Lockyer, Regan Poole, Joe Rodon, Chris Gunter, Connor Roberts, Adam Matthews, Cameron Coxe; Andy King, Michael Smith, Lee Evans, Joe Ledley, George Thomas, Daniel James, Aaron Ramsey, Ryan Hedges, Tom Lawrence, George Williams, Harry Wilson, Marley Watkins, David Brooks; Sam Vokes, Tom Bradshaw, Hal Robson-Kanu.