Wrth gyhoeddi na fydd Renato Sanches yn chwarae i dîm pêl-droed Abertawe eto, mae’r rheolwr Carlos Carvalhal wedi dweud bod ei gydwladwr yn “dwp” wrth droi at wefannau cymdeithasol yn ystod cyfnod anodd i’r clwb.
Mae’n debygol y bydd yr Elyrch yn gostwng i’r Bencampwriaeth ar ôl herio Southampton yn Stadiwm Liberty heddiw wrth iddyn nhw geisio gwyrdroi gwahaniaeth goliau sylweddol.
Mae’r cefnogwyr wedi beirniadu Renato Sanches ar ôl iddo gyhoeddi ar Twitter ddydd Mercher fod ganddo fe ‘emoji’ newydd sbon – oriau’n unig cyn i’r clwb wynebu realiti bywyd yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf.
Fe fu’r chwaraewr ar fenthyg o Bayern Munich ers cyfnod Paul Clement wrth y llyw.
Leon Britton
Er iddo ddweud bod Renato Sanches wedi ymddwyn yn “dwp”, mae Carlos Carvalhal yn mynnu nad y digwyddiad hwn yw’r rheswm pam na fydd e’n cael ei gynnwys yn y garfan heddiw.
Yn hytrach, mae’n dweud ei fod am roi’r lle ar y fainc i Leon Britton, un o hoelion wyth y clwb sydd wedi cyhoeddi ei ymddeoliad o’r gêm.
“Dw i’n dweud wrth y chwaraewyr bob amser am [beryglon] y cyfryngau cymdeithasol, a rhan fwya’r amser, nid nhw sy’n ei wneud e.
“Maen nhw’n cael pobol eraill sy’n eu cefnogi nhw i’w wneud e – ac weithiau mae eu ffrindiau nhw’n dwp.
“Maen nhw’n rhoi pethau yn eu dwylo nhw tu allan i bêl-droed ac maen nhw’n credu eu bod nhw’n gwneud peth da. Ond maen nhw’n gwneud un o’r pethau mwyaf twp yn y byd!”
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Renato Sanches yn Stadiwm Liberty ar gyfer y gêm – mae’n bosib ei fod e eisoes wedi dychwelyd i’r Almaen at Bayern Munich.
Tymor siomedig
Fe fu’r tymor hwn yn un siomedig i Renato Sanches ar ôl iddo ddod i sylw’r byd yn Ewro 2016 ddwy flynedd yn ôl, pan enillodd Portiwgal y gystadleuaeth.
Cafodd e dymor aflwyddiannus yn Bayern Munich y tymor diwethaf oherwydd anafiadau, ac fe gafodd e ganiatâd i symud i Abertawe am fenthyg at un o gyn-hyfforddwyr Bayern Munich, Paul Clement.
Ers hynny, mae e wedi cael sawl anaf ac wedi perfformio’n wael ar adegau yn ystod ei bymtheg gêm.
Dydy e ddim wedi chwarae ers mis Ionawr oherwydd anaf i linyn y gâr.
“Mae e’n gwybod ei fod e wedi cael tymor gwael iawn,” meddai Carlos Carvalhal, sy’n cyfaddef fod y chwaraewr dan bwysau ac yntau’n dal yn ifanc iawn.
“Neidiodd Renato yn gyflym iawn o’r tîm dan 19 i’r tîm cenedlaethol, ond a oedd e’n barod i symud allan o Bortiwgal at glwb mawr? Yn fy marn i, na, oherwydd mai bachgen yw e.”
Dywedodd y byddai’n ddoeth iddo ddychwelyd i’w famwlad i gael mwy o brofiad cyn troi at glybiau mawr Ewrop unwaith eto.