Fe fydd rhaid i chwaraewyr Abertawe “rheolau eu hemosiynau” wrth wynebu Southampton yn ddiweddarach (Mai 8), meddai eu rheolwr.

Â’r Elyrch yn wynebu disgyn o’r Uwch Gynghrair Lloegr, mae’r gêm gartref hon yn debygol o fod yn un tyngedfennol i’r clwb.

Os bydd y gêm yn un cyfartal – neu os bydd Abertawe yn colli – bydd yn rhaid i’r clwb ennill eu gêm olaf yn erbyn Stoke ddydd Sul (Mai 13) er mwyn medru goroesi.

Daw gornest heno yn sgil buddugoliaeth Caerdydd ddydd Sul (Mai 6) a’i dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

“Chwarae gyda hyder”

“Bydd rhaid i’n chwaraewyr rheoli eu hemosiynau a gweithredu yn y modd cywir,” meddai Rheolwr Abertawe, Carlos Carvalhal.

“Rhaid sicrhau nad oes unrhyw gamgymeriadau – dyma’r trywydd sydd rhaid ei ddilyn. Rhaid aros yn drefnus, a chwarae gyda hyder.”

Bydd y gêm yn dechrau am 7.45yh.