Y chwaraewr snwcer o Gymru, Mark Williams, yw enillydd Pencampwriaeth y Byd 2018.
Dyma’r drydedd waith iddo ennill y teitl, ac ef yw’r chwaraewr hynaf ers deugain mlynedd i fod yn fuddugol. Methodd ag ennill ei le yn y gystadleuaeth o gwbwl y llynedd.
“Dyma stori anhygoel,” meddai Mark Williams, wrth siarad â’r wasg yn noethlymun wedi’r ornest – roedd wedi addo gwneud hynny pe bai’n ennill.
“… Petaswn i’n ennill flwyddyn nesa’, fe fydden i’n gwneud hyn eto – fe fydden i’n llamu o gwmpas y lle yn noeth! Dw i’n mynd i ddathlu tan oriau mân y bore.”
Y gêm
Ar ôl treulio fframiau cynta’r ffeinal ar ei hol hi, manteisiodd yr Albanwr, John Higgins, ar gamgymeriadau Mark Williams gan ddod â phethau’n gyfartal 15-15.
Ond tarodd y Cymro yn ôl gan chwarae’n hyderus, cyn methu pelen binc hollbwysig.
Wrth nesáu at ddiwedd y gêm, serennodd Mark Williams ac fe enillodd yr ornest 18-16.