Mae gwydryn tîm pêl-droed Abertawe’n “hanner llawn” wrth i’r tymor ddirwyn i ben, yn ôl y rheolwr Carlos Carvalhal.

Mae’r Elyrch un pwynt yn unig uwchlaw’r safleoedd disgyn, ac fe fyddan nhw’n herio Southampton a Stoke – dau dîm sydd hefyd yn brwydro i osgoi gostwng i’r Bencampwriaeth – yn nwy gêm ola’r tymor.

Cyn hynny, maen nhw’n wynebu taith i Bournemouth, ac fe allai’r gêm honno fod yn dyngedfennol i’w dyfodol yn Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae’r chwaraewyr yn hyderus, yn ôl Carlos Carvalhal, a hynny er nad ydyn nhw wedi ennill yr un o’u chwe gêm diwethaf. Yn y cyfnod hwnnw, maen nhw wedi colli yn erbyn Chelsea, Man City, Spurs a Man U.

“Pan fo gyda chi wydryn o ddŵr, fe all fod yn hanner llawn neu’n hanner gwag,” meddai. “Mae’n dibynnu sut hoffech chi edrych ar y gwydryn. Mae rhai’n edrych arno ac yn ei weld yn hanner llawn, ac eraill yn ei weld yn hanner gwag; mae’n dibynnu ar eich llygad.”

‘Yn ein dwylo ni’

Ar hyn o bryd, mae Carlos Carvalhal o’r farn fod tynged ei dîm yn eu dwylo nhw eu hunain, a bod eu sefyllfa wedi gwella er pan oedden nhw ar waelod y tabl pan gafodd ei benodi.

“Pan gyrhaeddon ni, roedden ni bum pwynt ar ei hôl hi ar y gwaelod, ac yn y safle olaf. Ar hyn o bryd, mae’r cyfan yn ein dwylo ni.

“Felly alla i ddim ond bod yn bositif am fy chwaraewyr, fy nhîm a’n dyfodol ni. Mae gyda ni dair gêm i’w chwarae, a dwy ohonyn nhw gartref yn erbyn timau sy’n agos i ni [Southampton a Stoke].

“Mae’n wych, ac nid yn negyddol, fod gyda ni’r cyfan yn ein dwylo ni ac y gallwn ni ddim ond dibynnu arnon ni ein hunain.

“Pan gyrhaeddon ni, doedd neb yn credu y bydden ni yn y sefyllfa yma. Byddai 100% o bobol wedi dweud na fyddai hyn yn digwydd. Doedd neb yn credu.”

Ond yn ôl Carlos Carvalhal, roedd yntau’n credu o’r dechrau’n deg fod gan y tîm obaith o aros yn yr Uwch Gynghrair, er ei fod yn cyfaddef ei fod yn credu y byddai’n dibynnu ar y gemau olaf.

“Ro’n i bob amser yn credu y gallen ni fod yn y sefyllfa yma. Pan gyrhaeddon ni, byddai pawb wedi derbyn y sefyllfa yma ac yn dweud y byddai’n wyrth ac y byddai’n wych.

“Felly mae’r cyfan yn ein dwylo ni i’w gwneud hi cyn diwedd y tymor.”