Casnewydd 2–1 Swindon
Casnewydd a aeth â hi wrth iddynt groesawu Swindon i lawr yr M4 i Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.
Roedd goliau hanner cyntaf Amond a Tozer yn ddigon i’r Alltudion er i’r ymwelwyr dynnu un yn ôl wedi’r egwyl.
Rhoddodd Padraig Amond y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr, yn troi a gorffen yn dda. Yna, dyblodd Ben Tozer fantais y Cymry gyda pheniad o groesiad Ben White.
Rhoddodd Paul Mullin lygedyn o obaith i’r ymwelwyr toc wedi’r awr ond rhoddwyd cnoc i’r gobeithion hynny’n fuan wedyn wrth i Rollin Menayese orfod gadael y cae gydag ail gerdyn melyn.
Daliodd Casnewydd eu gafael yn gyfforddus wedi hynny gan godi i hanner uchaf y tabl. Maent bellach yn ddeuddegfed gyda phump gêm yn weddill a’i gobeithion main o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fathemategol bosib o hyd.
.
Casnewydd
Tîm: Day, white, Bennett, Demetriou, Pipe (Reid 81’), Tozer, Willmott, Dolan, Butler, Amond Collins (Nouble 64’)
Goliau: Amond 15’, Tozer 35’
.
Swindon
Tîm: Moore, Knoyle, Purkiss (Mullin 48’), Menayese, Hussey, Taylor, Dunne, Banks, Twine (Linganzi 68’), Richards, Woolery (McDermott 45’)
Gôl: Mullin 62’
Cardiau Melyn: Dunne 86’
Cerdyn Coch: Menayese 66’
.
Torf: 3,911