Bydd Cymru yn chwarae Sbaen yng Nghaerdydd mewn gêm gyfeillgar ar Ddydd Iau, 11eg o Hydref 2018 cyn wynebu Albania yn yr Elbasan Arena, Elbasan oddi cartref ar Ddydd Mawrth 20fed o Dachwedd 2018.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae Sbaen ers 1985.
Bryd hynny fe enillodd Cymru 3-0 mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd FIFA, gydag Ian Rush yn sgorio dwy a Mark Hughes yn sgorio foli gofiadwy ar Gae Ras Wrecsam.
Mae’r ddwy wlad wedi chwarae pedair gêm arall yn erbyn ei gilydd, dwy gêm gyfartal a Sbaen yn ennill y ddwy gêm arall.
Hydref prysur i Gymru
Bydd y gêm yn cael ei chwarae cyn i Gymru wynebu Gweriniaeth Iwerddon (oddi cartref) yng nghystadleuaeth Cynghrair Cenhedloedd UEFA ar yr 16eg o Hydref.
1995 oedd y tro diwethaf i Gymru wynebu Albania, gyda Mark Pembridge yn sgorio unig gôl Cymru mewn gêm gyfartal o 1-1 yn Tirana. Yr unig dro arall i Gymru wynebu Albania oedd yn 1994, gyda Chris Coleman a Ryan Giggs yn sgorio mewn buddugoliaeth o 2-0 ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd.